Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Adgofion am John Elias.djvu/117

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

air yn ngair, a phe buasai yn ei darllen o ysgrifen neu argraff. Yr oedd y pregethwr hwn yntau yn cychwyn dranoeth i gymmanfa oedd i gael ei chynnal yn yr un lle, yn mhen yr wythnos. Yr oedd yn pregethu yno am ddeg o'r gloch; a'i destyn oedd, "Heb gyfattal y pen, &c.;" ac yr oedd ei bregeth wedi cael yr argraff mwyaf effeithiol oedd yn ddichonadwy ar y dorf. Ni bu dim yn hynod yn y gymmanfa hon ond yn unig y bregeth am ddeg o'r gloch. Yn mhen y pythefnos yr oedd Elias yntau wedi cyrhaedd yno, ac yn pregethu am ddeg o'r gloch yn yr ail gymmanfa—yn yr un dref, ac ar yr un maes. Darllenodd ei destyn, "Heb gyfattal y pen, &c." Gwelai ryw olwg wammal hynod ar y dorf. Yr oedd yn methu yn lân a deall beth oedd yr achos. Yr oedd yn meddwl ei fod yn ddifrifol ei hun, a bod ganddo destyn difrifol a phwysig iawn. Ond er pob peth, gwibiog oedd yr olwg ar y bobl yn parhau o hyd; ac felly, methodd Elias yn hollol a chael yr afael arferol ar y gwrandawyr y tro hwnw! Mawr oedd y syndod ganddo pan y gofynodd un cyfaill iddo, wedi myned i'r tŷ, pa fodd yr oedd efe yn dyfod â phregeth ail llaw iddynt i'r gymmanfa? "Pregeth ail llaw?" ebe yntau. "Ië," ebai y cyfaill "ni a'i clywsom bob gair bythefnos yn ol ar y maes yna' "Wel, y mae hi wedi bod yn llawer rhatach i rywun nag i mi ynte," meddai Elias. Felly, gadawyd ef yn y niwl am y tro hwn; ac efallai mai yr unig dro iddo fod felly yn ei oes ydoedd! Yn mhen ychydig amser wedi hyny, gofynodd i gyfaill, "A wyddoch chwi a oedd hwn a hwn yn gwrandaw yma, pan oeddwn i yn pregethu ar y testyn, "Heb gyfattal y pen, &c.?" "Oedd siwr," oedd yr atebiad, "yn yr un seat a mi yr oedd efe yn gwrandaw." "A ddarfu i chwi ddim sylwi, a oedd efe yn ysgrifenu yno ar y pryd?" Atebwyd, "o nag oedd, ac nid oedd eisieu hyny chwaith; o blegid efe a gofia bob gair, sill, ac iot, o bregeth un arall." "Wel, Syr," ebai hwnw ar hyn, " pa ham yr oeddych yn gofyn, os yw y cwestiwn yn briodol?" "O dim," meddai yntau, "ond ei fod ef fel finnau yn pregethu ar yr un testyn weithiau; ac y mae peth felly yn dygwydd yn fynych."

Y mae llawer o bregethau Elias wedi cael eu hargraffu; ond y mae yn nodedig i'w sylwi, fel y bydd pawb yn cael