Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Adgofion am John Elias.djvu/12

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gwawrio. Y mae cynhwrf drwy yr holl wlad hyd bellder ffordd o amgylch y dref sydd i gael ei hanrhydeddu eleni. Y mae y ddinas yn ferw drwyddi draw. Y mae yr ysgolion dyddiol wedi tori i fyny, i ollwng y plant adref. Y mae y gweision yn coffäu i'w meistriaid fod rhyddid i fyned i'r sasiwn yn un o delerau eu cyflogiad. Y mae seiri y dref a'r gymmydogaeth yn prysur gario coed i adeiladu y gadair ymadrodd, ac y mae llèn llian fawr yn cael ei pharotoi i'w thaenu yn dô. Y mae y maes wedi ei gynnyg er ys mis yn ol, yn rhad ac am ddim, gan foneddwr ger llaw; ac y mae wedi tori y gwair i lawr a'i gludo, o'r bron cyn addfedu, er mwyn croesawu yr ŵyl fawr. Lle ar lethr ydyw; man y mae natur wedi adeiladu un o'i horielau mwyaf dengar a manteisiol. Y mae yr areithfa eang yn y cwr isaf, a meinciau i'r cantorion ger bron. Onid oes yma olygfa swynol iawn? Y mae y lle yn cael ei gylchynu gan res o fryniau "megys y mae Ierusalem a'r mynyddoedd o'i hamgylch." Y mae y bronydd acw wedi eu gwisgo â'r borfa lâs; ac y mae y clogwyni noethion acw yn ardderchogi yr olygfa. Y mae yna ambell hafn yn ymagor rhyngddynt, i gael golygfa ar len lydan ddulas mynwes y môr o bell draw. Y mae yr awel yn suo yn hyfryd yn mrig y goedwig ar ochr y bryn; ac y mae y gwynt tyner yn llunio megys tonau ar hyd a lled y maes gwenith draw. Y mae anian heddyw wedi ymwisgo yn ei dillad Sabbathol, canys diwrnod awyr glir hirddydd haf yr unfed ar ugain o Fehefin ydyw. Y mae pob peth o'r ddaiar a'r nef yn ymuno i wneyd pob golygfa yn ddedwydd heddyw !

Y mae cyfarfod y pregethwyr a'r blaenoriaid wedi dechreu, ac y maent wedi myned drwy eu cynghorau ar fyr. Y mae hi agos yn bedwar o'r gloch prydnawn, ac y mae yna gannoedd o amgylch drysau y capel wedi dyfod i gael golwg ar y pregethwyr yn dyfod allan; a dacw hwy ar y palmant yn rhes, a "JOHN" yn eu canol. Y mae y pryder wedi codi i'w orsaf uchaf erbyn hyn; canys y mae hi o fewn ugain