wedi eu cau am byth! Y mae y fraich, y llaw, a'r bys, a roddent gyffro byw mewn teimladau, mor oerion ac mor lonydd erbyn heddyw a'r ddelw o farmor gwyn ar y pared! Dyma fyfyrdodau naturiol i bawb ar ymylon glyn cysgod angeu! Y mae y lluaws yn cyfeirio am eu gwahanol gartrefi yn awr: ond y mae nifer yn aros yn y dref, i glywed y bregeth angladdol yn yr hwyr. O ganol y pryder i gyd, y mae eu meddyliau yn ymddyrchafu mewn myfyrdod ar bethau uwch; ac er marw o'r gweision, fod y Meistr mawr yn fyw; yr hwn sydd yn byw bob amser," yr hwn y mae agoriadau y bedd a'r byd anweledig ganddo. Y maent weithian yn dechreu tywallt eu dagrau, ac yn troi oddiar alaru eu colled i ddiolch am wasanaeth y gweinidog ffyddlawn cyhyd; ac am y fraint a gawsant o gael yr adeiladaeth a brofasant dan ei weinidogaeth am dymmor mor faith, ac yn ymdrechu rhag tristau yn anghymmedrol fel rhai heb obaith ei weled mwy; ac y maent yn cael ysbrydoli eu teimlad mewn gob aith am gyfarfod eu gilydd ar fryniau anfarwoldeb, yn "yr orphwysfa sydd eto yn ol i bobl Dduw!" Maent yn mawrhau y fraint o gael dadguddiadau Cristionogaeth, sydd wedi dwyn bywyd ac anfarwoldeb i oleuni ymarferol. Gwelant mai nid ymollwng, ond ymwroli, ydyw eu lle y maent yn penderfynu anrhydeddu ei goffawdwriaeth drwy roddi ei gynghorion mewn ymarferiad. Y maent yn ymwybodol mai y gofadail uchaf a allant godi o barch i'w enw ydyw dilyn ei ffydd, gan ystyried diwedd ei ymarweddiad, ac ymddiried yn yr un fraich ag a'i cynnaliodd yntau, ac edrych am oleuni y gwirionedd yn arweiniad drwy y glyn tywyll i'r wlad lle nad oes ymadawiad na marwolaeth mwy—y baradwys nad oes un bedd o'i mewn—yr anneddle lonydd, lle na ddywed un o'i phreswylwyr, "claf ydwyf!"
Pan welwy'm hen gyfeillion
Yn croesi'r afon ddofn,
Heb brofi unrhyw niwaid,
Pa ham y teimlaf ofn?
Mae'r un addewid gadarn
A'u daliodd hwy i'r lan,
Yn ddigon byth i minnau
'Roi pwys fy enaid gwan.