mae yn rhagymadroddi ac yn esbonio cyssylltiadau y testyn. nes y mae, fel masnachydd eang, yn agor y ddor ac yn symmud y gauadlen, a holl drysorau ystordy mawr y gwirionedd yn ymddangos fel hanner dydd o flaen yr holl dorf, fychan a mawr, ar unwaith; neu o leiaf cyn pen deng mynyd. Y mae yn rhanu ei destyn yn gelfyddgar. Dyna ni wedi myned drwy un orsaf yn awr. Y mae yn myned rhagddo ac yn ymresymu â'r dorf yn oleu, yn argyhoeddiadol, ac yn afaelgar, nes y mae cyn pen ugain mynyd wedi ennill meddylfryd y bobl yn lân, ac wedi golchi ymaith yr holl deimladau uchel a godwyd gan y bregeth gyntaf yn gwbl oll, ac wedi claddu ei ragflaenorydd o'r golwg ddeg llath ar hugain dan y ddaiar. Y mae y dorf yn awr yn gwbl at ben ei fys, ac y mae fel pe byddai yn deall ei fod wedi gweithio teimladau ei wrandawyr i fod yn arweiniai i wefryddiaeth gwreichionog ei genadwri. Y mae wedi llyncu syniadau y bobl i fyny yn llwyr, a'u gosod i droi ar begwm ei bwnc ei hun yn unig. Y mae yn gwaeddi, "Gwrandewch yn awr." O, dyna ymadrodd heb ei eisieu beth bynag ar hyn o bryd; camp fyddai cael gan neb beidio gwrandaw yn awr: y mae pob oen sydd yma yn glust i gyd er ys meityn. Y mae ei ysbryd wedi ei danio gan wres y gwirionedd megys y mae yn yr Iesu. Y mae pryder a dysgwyliad wedi gwisgo pob wyneb dyn, ac y mae pob clust wedi ei hoelio wrth ddor ei ymadrodd. Ymddengys yn awr fel cadfridog yn sefyll o flaen y dorf, a chleddyf yr Ysbryd yn ei law, ac y mae fel pe byddai yn ymwybodol ei hun ei fod dan arweiniad uniongyrchol ei Feistr. Y mae fel pe byddai wedi penderfynu y myn ryw bechadur yn rhydd o'i berygl yn yr oedfa hon, pe byddai heb bregethu byth mwy. Mewn gwirionedd, ymddengys yn awr, nid yn unig fel pe byddai yn ymwybodol fod "Tywysog llu yr Arglwydd" ar ei ddeheulaw, ond y mae fel pe byddai yn deall sefyllfa a theimlad y dorf sydd o'i flaen, ac yn gweled fod min y cledd yn cyffwrdd â chydwybodau y bobl yn barod. Ah! dyma ni wedi pasio yr ail orsaf yn awr. Y mae rhyw newidiad yn ei wedd. Y mae ei lais yn disgyn i ryw dinc mwyn yn y minor key. mae yn dechreu tyneru, os nad yn dechreu toddi, teimladau y dorf; ond nid oes dim eto o'r hwyl hyfryd a deimlwyd dan y
Tudalen:Adgofion am John Elias.djvu/24
Gwedd