wng! Y mae yn gwaeddi allan, "Wel, deuwch â'r waredigaeth i'r golwg bellach?" "Ah! a fyddai yn onest i mi ddangos y noddfa i chwi cyn i chwi deimlo eich perygl?" Y mae y dorf yn ddystaw fud eto. Y mae rhai yn dechreu tynu allan eu napcynau i sychu y gruddiau gwlybion. Y mae ambell hen chwaer yn methu yn lân a chadw y teimlad i lawr; y mae yr ager yn rhy gryf i'r safety valve. mae un yn gwaeddi allan yn y gornel draw, "Fy mywyd i!" Y mae un arall yn mron ymdori yn y fan arall, wedi ymattal yn hir, yn gwaeddi, "Oes gobaith i fy math i?" Un arall, "O fy enaid gwerthfawr i!" Un arall, "Beth a wnaf?" Y mae yna ddynion cryfion â'u hwynebau yn amliwio wrth geisio cuddio eu teimladau. Ond nid oes yma eto ddim o'r cyffro cyffredinol oedd dan y bregeth gyntaf. Ar hyn, dyma y pregethwr, o ganol ei ymresymu, yn cael ei gymmeryd i fyny gan deimlad cryf. Dyma ni yn cael ein symmud i station newydd eto. Y mae yn codi ei lef, ac fel pe byddai yn rhedeg i ganol y gwersyll, ac yn codi baner y groes yn ngolwg y bobl, ac â llais treiddgar, fel udgorn arian y deml, yn cyhoeddi gobaith i'r euog, ac agoriad carchar i'r rhai sydd yn rhwym; y mae yn galw ar bawb at orsedd trugaredd; y mae yn dyferu myrr oddi wrth ben ei fys hyd hespenau rhydlyd cloion calonau pechaduriaid celyd; y mae yn tywallt olew iachawdwriaeth gras ar glwyfau yr argyhoeddedig. Y mae yn agor drws llydan o obaith o flaen yr hen wrthgiliwr, ac yn galw ar yr afradlawn i ddyfod yn ol i dŷ ei Dad. Y mae fel bugail tyner yn gwylio y praidd, ac yn tyru y defaid o'i flaen i'r gorlan, â'i ffon gnwpa,—
A'i danbaid lygaid a'i lef—dilyna
Afrodloniaid adref
Fe lwydda grym ei floedd gref"
i symmud yr holl dorf ar unwaith, fel pe byddent wedi cael eu trydanu gan fellt y gyfraith, a'u bywhau gan lais hyfryd rhad ras yn eu harwain at odrau y groes. Y mae y waredigaeth wedi dyfod i'r golwg o'r diwedd; y mae drws trugaredd wedi cael ei agor o led y pen; y mae trothwy y noddfa yn cael ei dangos ger llaw. Y mae yn awr fel pe byddai yn estyn ei fraich hir dros ymyl yr areithfa,