Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Adgofion am John Elias.djvu/76

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

adgyfodiad o'r bedd, ac iddo dderbyn pob awdurdod yn y nef ac ar y ddaiar, anfonodd hwy i'r "holl fyd, i bregethu yr efengyl i bob creadur, gan eu bedyddio hwy yn enw y Tad, y Mab, a'r Ysbryd Glân." Cymmerodd fantais oddi wrth yr amgylchiad o fod un mewn oed yn cael ei fedyddio i ddwyn ger bron yr holl fedyddiadau teuluol a gofnodir yn y Testament Newydd, yn fanwl iawn. Traethodd yn eglur ar gyferbyniad bedydd yr oruchwyliaeth efengylaidd âg enwaediad yr Hen Destament; gan ddal y tebygoliaeth sydd rhwng y ddau ger bron, yn eu holl berthynasau —eu harwyddion a'u harwyddocâd, eu dybenion a'u heffeithioldeb gyda boddhâd anarferol i'r gwrandawyr. Dangosai fod yr Arglwydd wedi dewis amrywio ei ordinhadau dan wahanol amgylchiadau yn ei eglwys. "Yr oedd yr ordinhadau cyn dyfodiad y Gwaredwr, gan mwyaf, yn waedlyd; megys yr enwaediad, yr oen pasc, &c.: ond dan oruchwyliaeth yr efengyl, y mae yr arwyddion yn fwy dysyml ac esmwyth, ac felly yn gweddu yn fwy o ran priodoldeb i'r amcan mawr sydd mewn golwg ynddynt. Dyma fel y mae bedydd, yr hwn sydd i barhau yn yr eglwys hyd ddiwedd amser. Y mae yn syml, yn esmwyth, yn eglur, ac yn hawdd." Dywedai, "Ni roddodd yr Arglwydd unrhyw addewid i'w bobl, mewn unrhyw oes, heb gadarnhau y cyfryw gyda rhyw sel benodol. Rhoddodd addewid i Noah, a sefydlodd y bwa fel sel i'w chadarnhau. Rhoddodd addewid i Abraham, ac i'w hâd ar ei ol; a rhoddodd yr enwaediad fel sel o'i ffyddlondeb i'w chadarnhau: 'Ac efe a gymmerth arwydd yr enwaediad yn insel cyfiawnder y ffydd, yr hon oedd ganddo yn y dienwaediad: fel y byddai efe yn dad pawb a gredent yn y dienwaediad; fel y cyfrifid cyfiawnder iddynt hwythau hefyd ac yn dad yr enwaediad; nid i'r rhai o'r enwaediad yn unig, ond i'r sawl hefyd a gerddant lwybrau ffydd Abraham ein tad ni, yr hon oedd ganddo yn y dienwaediad." Felly, yn ngosodiad i fyny yr oruchwyliaeth newydd dan yr efengyl, trefnwyd bedydd yn arwydd yn insel o'i ffyddlondeb i gyflawnu ei addewid i'w bobl ac i'w plant. Gan fod y plant yn rhan o Israel Duw y pryd hwnw, pa fodd nad ydynt felly yn rhan o eglwys Dduw yn awr? Wedi cymmeryd y deyrnas oddi