bedyddiedig i rodio mewn newydd—deb buchedd, ac i ymgyflwyno i Grist. Cyfeiriai at rieni oedd wedi cyflwyno eu plant trwy fedydd i'r Arglwydd, am fod yn ffyddlawn i'w rhwymedigaeth bwysig a difrifol, i'w maethu yn addysg ac athrawiaeth yr Arglwydd, gan ddysgu iddynt gadw pob peth ar a orchymynodd Crist iddynt, a'u dwyn i fyny fel dysgyblion cywir iddo ef. Rhoddodd y gwersi mwyaf gafaelgar i'r dorf yn gyffredinol; ac annogai bawb i ystyried y ddyledswydd oedd arnynt i rodio a boddloni Duw, trwy gydsynio â threfn yr iachawdwriaeth, a thrwy wneyd arddeliad o'u cred yn athrawiaeth a gwaith y Drindod, i enw yr hwn yr oeddynt wedi eu bedyddio, mewn proffes ffyddlawn i glod ei ras. Dywedai mai pan y deuai eglwys Dduw i fagu eu plant yn deilwng o'r rhwymedigaeth sydd arni, y darfyddai y dadleu a'r ymdaeru yn nghylch y plisgyn, a hyny yn fynych ar draul colli y cnewyllyn; a hyderai y byddai pawb oedd yno wedi eu cadarnhau yn y gwirionedd presennol, ac na byddent byth yn blantos, yn bwhwman, ac yn cael eu harwain o amgylch gan bob awel dysgeidiaeth, ac y byddent yn barod bob amser i ateb i'r neb a ofyno iddynt reswm am y gobaith oedd ganddynt! Aeth trwy holl drafodaeth y cwestiwn, yn ei amrywiol gangenau, mewn modd ag oedd yn cyflwyno perffaith foddlonrwydd i bob mynwes oedd yn y lle. Yr oedd ei holl ymadroddion fel hoelion yn cael eu sicrhau yn meddyliau y bobl oll.
Yna, cyflawnwyd gorchwylion y bedyddiad. Dywedodd wrth yr un mewn oedran, "Cyfod, bedyddier di," ac felly y cwblhawyd y gwaith arno. Yna, dygwyd y plant yn mlaen. Pan y cymmerai y cyntaf i'w freichiau, ymddangosai megys wrth ei fodd, â gwen siriol a syml ar ei wynebpryd, fel pe buasai yn nghanol mwynhâd o hyfrydwch a budd yn y gorchwyl difrifol. Derbyniai hwy gydag anwyldeb serchus iawn; tynai ei law dros eu dillad, i'w dangos yn brydferth a thrwsiadus, a hyny yn llawn mor fedrus a thyner a mammaeth. Adroddai eiriau y Gwaredwr, "Gadewch i blant bychain ddyfod ataf fi, ac na waherddwch iddynt; canys eiddo y cyfryw rai yw teyrnas nefoedd." "Os eiddynt yw y deyrnas—os rhyngodd bodd i'w Tad nefol roddi iddynt y deyrnas—pwy ydym ni i'w cau allan, neu i attal iddynt un