Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Adgofion am John Elias.djvu/87

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

prysuro ei oreu wrth fyned yn mlaen. Yr oedd ei eiriau yn dyfod yn fwy effeithiol o hyd ar y bobl, ac yr oedd y teimladau yn dechreu tori allan i amlygiad erbyn hyn:—"Corff ein Harglwydd Iesu Grist a aberthwyd drosoch; Cymmerwch a bwytewch y bara hwn, yn goffadwriaeth ddryllio ei gorff glân drosoch, a byddwch wir ddiolchgar; 'Gwnewch hyn er coffa am danaf;' 'Hwn yw fy nghorff,' &c.yn arwyddol—ac nid fel y meddylia Eglwys Rhufain, yn wirioneddol na, yr oedd hwnw i gael ei aberthu ar y groes dranoeth; Yr hwn ei hun a ddug ein pechodau ni yn ei gorff ar y pren,' &c; Cofiwn nes teimlo, a theimlwn nes diolch," &c. Yr oedd ei feddwl yn ymddangos mor llawn weithiau, fel yr oedd megys yn gorfod sefyll er ei waethaf, i esbonio dull mynediad yr archoffeiriad i'r cyssegr gyda gwaed yr aberth, nes yr oedd hyd yn oed y brys oedd arno yn ei wneyd yn fwy tarawiadol fyth. "Wedi swperu, efe a gymmerth y cwpan. Nid oedd modd bod arwydd mwy priodol na'r gwin, o blegid gelwid ef yn fynych, Gwaed y grawnwin. 'Einioes pob peth yw ei waed.' Fel yr oedd y bara i gael ei fwyta, felly yr oedd y gwin i gael ei yfed. Ni waeth pa mor lleied i'w yfed, ond dylid yfed: "Yfwch bawb o hwn.' 'Oni fwytewch gnawd Mab y dyn, ac onid yfwch ei waed ef, nid oes genych fywyd ynoch. Oni dderbyniwch yr athrawiaeth am ei ddyoddefiadau, ac oni ymddiriedwch trwy ffydd yn ei angeu, nid oes genych fywyd ynoch. Yr un modd y mae y rhan hon eto o'r gwasanaeth i gael ei gwneyd trwy gofio yn ddiolchgar am ei angeu a'i aberth. Cofio am ei Berson a'i ddyoddefiadau, ac am ei gariad rhad yn ein cofio ni yn ein hiselradd, a hyny bob tro y nesaom at y bwrdd. 'Cynnifer gwaith bynag y gwneloch'—pa mor aml bynag. Ni ddywedir i ni yn benodol pa mor amled; ond pa mor aml bynag, nid yw byth i gael ei gyflawnu, ond er cof am dano ef. Dyna ddylai fod y dyben mawr mewn golwg bob amser—dangos marwolaeth yr Arglwydd. Yr oedd yr aberth gynt i gael ei ddangos. Hwn a osododd, neu a arddangosodd Duw yn iawn. Yr oedd Crist, drwy yr aberthau a'r ordinhadau, yn cael ei ddangos i'r eglwys yn mhob oes, ac yr oedd yn cael ei ddangos trwy yr eglwys i'r byd. Yr oedd yr aberthau gynt