nad ydyw golygiadau athrawiaethol dynion i gael eu barnu wrth eu geiriau! Beth! a ydych yn meddwl mai seilio y cyhuddiad ar freuddwyd neu ddychymyg a wnaed, o'r peth a allai eu golygiadau fod? Nag e; ond wrth eu geiriau. Trefn y Beibl ydyw barnu golygiadau dynion wrth eu geiriau; 'Wrth dy eiriau y'th gyfiawnheir, ac wrth dy eiriau y'th gondemnir.' 'O helaethrwydd y galon y llefara y genau.' Yr wyf fi yn awr yn eistedd i lawr i wrandaw arnoch chwi yn egluro pa fodd y mae barnu athrawiaethau dynion, heb law wrth eu geiriau? Dynion yr un feddwl â'u gilydd, ond yn gwahaniaethu yn eu geiriau, ai e?" Y mae yn hawdd dirnad beth oedd y canlyniad. Gan nad faint o wir ymresymiad oedd yn hyn, dengys fod ganddo ef ddigon o eangder meddwl i allu cadw ei droed ar yr ochr ddiogel o graig y ddadl, ac na roddai ei ben dan gesail neb!
Wedi gweled Elias yn mhlith ei frodyr mewn sassiwn, ni a'i dilynwn eto hyd y cyfarfod misol. Nid yw y naill olygfa na'r llall ond tebyg i'w gilydd, gyda'r eithriad o fod y naill â'i gylch yn llai na'r llall, a'i fod yntau, efallai, yn gwneyd ei hun yn fwy teuluaidd yn yr olaf. Ni ystyrid y gyfeillach yn Môn yn gyfa heb Elias a "Rhisiart William Dafydd." Efallai fod priodoldeb yn galw am i ni beidio gwneyd cyfeiriadau at y byw, ar hyn o bryd. Pan y byddai y ddau gyda'u gilydd, byddai y cyntaf yn codi yr hwyliau a'r llall yn gofalu am y llyw. Aethai olwynion y cyfarfod neillduol yn rhy farwaidd a digychwyn heb Elias, ac aethai y cerbyd, ambell dro, yn rhy gyflym ac angerddol heb Llwyd. Pan y byddai y rhes yn teithio yn rhy araf, gollyngai Elias chwaneg o steam arni, a phan y cyflymai dros gan milltir yr awr, rhoddai Llwyd y brac ar yr olwyn. Ond rhaid sylwi yma fod y ddau gyda'u gilydd yn hyfryd. Ar yr un pryd, dylid nodi fod yn llawer haws attal olwynion, na'u gyru yn mlaen. Gall bongler daflu yr olwyn oddi ar y gledr; ond y mae yn rhaid cael crefftwr i wylio a rheoli yr ager. I gadw bywyd mewn cyfarfod, yr oedd yn ofynol cael cyflawnder o ddefnyddiau, ac adnabyddiaeth o amgylchiadau cyhoeddus y byd. Yr oedd yn ofynol gwybod rhywbeth am sefyllfa wladwriaethol y deyrnas, i edrych a fyddai dim galwad am erfyniad seneddol weithiau; yr oedd