Tudalen:Aildrefniad Cymdeithas.pdf/18

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

gyfaill, y diweddar Idris Fychan. Mewn gwlad estronol, yn nghanol helyntion bywyd, aumbosibl ydyw i neb—hyd yn oed i wladgarwr siddgar o ddelw R. J. Derfel—dalu cymaint ag a ddymaunai o sylw i anghenion ac iawnderau ei genedl. Yn ol arfer y Cymry oddicartref, sef tynu at eu gilydd, daeth yr ysgri fenydd pan yn pabellu yn swydd Caerhirfryn i gyffyrddiad mynych ag awdwr anfarwol "Brad y Llyfrau Gleision," ond eto teimlaf fy annghymwysder o ran oed a medr i wneud cyfiawnder a'r Cymro talentog hwn. Ar gais y golygydd, modd bynag, gwnaf a allwyf.

Ganwyd R. J. Derfel yn y Foty, ger Llandderfel, ar y 24ain o Orphenaf, 1824. Ail fab ydoedd i Edward Jones, Tanyffordd, yr hwn ydoedd un o sylfaenwyr yr achos Anibynol yno, a diacon parchus yn yr eglwys hyd ddydd ei farwolaeth.

Yr unig ysgol a gafodd I R. J. Derfel oedd yr Ysgol Sul ac ysgol yr aelwyd! Yr oedd ei fam—fel mam y cenedlgarol Ieuan Gwynedd yn "Atheniad yn wir"—yn un oedd yn sychedu am wybodaeth ac yn hoff darllen yn fawr. Dysgodd ei phlant i gyd pan yn bur ieuaine i ddarllen iaith eu gwlad. Ac yn bump oed, medrai R. J. Derfel ddarllen yn rhwydd a llithrig. Ar ol iddo gyraedd ei ddeng mlwydd diangodd oddicartref. Ryw nos Sul, ar ol bod yn y capel, yn lle dychwelyd gartref, cyfeiriodd ei gamrau tua Llandrillo, heb ddyweud gair wrth neb. A boreu dydd Llun, cyn fod neb wedi codi, yr oedd yn Llangollen; a chyn haner dydd cyrhaeddodd dy ei ewythr, Jonah Roberts, yn Nghefnmawr. Arosodd yno ryw ddwy flynedd. Ystyrid ei ewythr, Jonah Roberts, yn dipyn o brydydd; ac i hyn, mae yn fwy na thebyg, y dylid tadogi dechreuad yr ysfa farddonol yn R. J. Derfel. O leiaf, pan yn byw gyda ei ewythr y dechreuodd farddoni. O'r Cefnmawr symudodd i Llangollen, lle y trigianodd amryw flynyddoedd. Pan oddeutu un ar hugain oed aeth i L'erpwl: ac oddi yno drachefn, yn mhen ychydig wythnosau, i Manceinion. Y pryd hyn nis gallasai siarad gair o Seisneg. Yn y dyddiau hyny, fel yn bresenol, isel iawn oedd masnach, a phrinach fyth oedd gwaith. Wedi aros yn Manceinion ryw ddwy flynedd, a myned allan o waith, aeth i Lundain, lle yr arosodd yn nghylch blwyddyn o amser a llawer o'r amser hwnw allan o waith. Symudodd o Lundain i L'erpwl; ac oddiyno yn ol i Manchester, lle mae wedi aros hyd y dydd hwn. Yma eto, bu ysbaid faith allan o waith, O'r diwedd cafodd le fel paciwr gan y Meistri J. F. a H. Roberts,