Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Am Dro i Erstalwm.djvu/11

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

V.

Bywiai Sieffry yn y 12fed ganrif, a dyrchafwyd ef yn Esgob Llanelwy yn 1152. Am oesau coelid fod ei hanes yn wir ac ymddiriedol, ond barn ysgolheigion mwyach yw mai chwedlau yw y cyfan o'i hanes, ond gall pob meddwl awengar a rhamantgar fedi llawer o fwyniant a thynu gwersi gwerthfawr o'u darllen.

VI.

Adwaenir yr awdwr rhamantus wrth yr enw Sieffry o Fynwy, a thystir i ddylanwad ei waith gan y ffaith iddo ysbrydoli mwy o ysgrifenwyr na neb arall. Dylanwadodd ei hanes megys cyfaredd ar y meddyliau mwyaf awengar drwy yr oesau, gan gymeryd i fewn Shakespeare a Tennyson. Bu yn mryd Milton am flynyddau i wneyd yr hanes am Arthur a'i Ford Gron yn destyn arwrgerdd, ond yn ddiweddarach dewisodd Goll Gwynfa.

VII.

Gellid cyffelybu hanes Sieffry i ffynon yn nghanol mynydd anghysbell yn llifo o gwm i gwm gan gasglu nerth nes dyfod yn afon lydan yn nghanol meusydd heirdd a chnydfawr, yn ogoniant gwlad. Gellid olrhain y llenyddiaeth Seisnig i hon; ac y mae holl ramant y beirdd diweddaraf yn ddyledus iawn i ysbrydoliaeth yr