Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Am Dro i Erstalwm.djvu/19

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

aidd i'w gyfansoddiad yr aeth yntau yn enaid byw. Cydnabyddwn ei fod yn business man, yn rheolwr a gorthrymwr erioed, ond y teimlad Celtaidd ynddo ddechreuodd ei wneyd yn Brydeiniwr. Y rheswm ei fod yn well heddyw na'r Ellmyn yw fod y gwaed Celtaidd ynddo.

XVI.

Y mae yr anian Geltaidd ramantus wedi bod o les i'r Sais, eithr wedi drygu y Cymro. Y mae y rhamantus mor debyg o niweidio dyn a dim oddigerth iddo ei throi at waith buddiol. Aeth y Cymro yn ymffrostgar o'i henafiaeth, ac felly yn ddiofal o'i ddyfodol. Am oesau bu y Cymro a'i wyneb tuag yn ol yn ymhyfrydu mewn cynllunio chwedlau am ei haniad a'i henafiaeth ddigyffelyb. Nid oedd yn ddigon i'r Cymro olrhain ei darddiad yn ol i Brutus, rhaid oedd iddo fyned yn ol i Gomer, mab i fab hynaf Noah, a phrofi gyda llaw mai y Gymraeg oedd iaith Noah. Ebe un awdwr ar y pwnc hwn, "Ni chafodd y Cymry eu hiaith o gymysgfa Twr Babel, am y rheswm fod Gomer, tad y Cymry, wedi ymadael am y Gorllewin cyn hyny, ac wedi myned a'r famiaith gydag ef. Nid oedd y Cymry yn Babel o gwbl. Felly gellid casglu yn naturiol mai y Gymraeg oedd yr iaith gynddiluwaidd." Ebe awdwr arall, "Yn yr