ffug freninoedd a gwychder teyrnasol yn y cynoesau, heb flino o gwbl yn nghylch cael teyrnas a theulu breninol gwirioneddol. Rhagorach gwaith na ffugio pethau wedi bod, yw llunio pethau i fod. Fel y dywed yr awdwr Ffrengig, nid yw dychymygion anymarferol namyn coedwig ddiwreiddiau (une foret qui n'a pas de racines). Nid addoli y gorphenol wna y meddwl doeth, eithr adeiladu arno bethau rhagorach o oes i oes. Ar hyd yr oesau ni fu campau y Cymro yn deilwng o'i ddoniau. Treuliodd hwy i ryfela, barddoni ac ymddifyru yn ddiam "Herein lies the pitiful tragedy of his life." Ni ddirnadodd y ffaith bwysig fod gwareiddiad yn golygu gwybod a gwneyd. Meddyliai fwy o'i hunan nag o'i genedl a'i wlad. Ni chymerai ddyddordeb mewn pensaerniaeth, cerfluniaeth, arluniaeth, athroniaeth, gwyddoniaeth, celf na chrefft o radd uchel. Y mae yr oll o'r braidd o'i lenyddiaeth yn farddoniaeth, a'i awen fwyaf barddonol yn rhyddiaith, megys y Mabinogion, y Bardd Cwsg a Llyfr y Tri Aderyn. Awgrymiadol iawn yw y cyfaddefiad hwnw o eiddo awdwr "Drych y Prif Oesoedd" pan y dywed yn nglyn a'r traddodiad i'r Cymry ddyfod o Gaerdroia, y ceid gweled y bugeiliaid ar bob twyn a bryn yn tori llun Caerdroia ar wyneb y glas, ac ebai efe ar yr un pryd rhwng crom-
Tudalen:Am Dro i Erstalwm.djvu/27
Gwedd