Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Am Dro i Erstalwm.djvu/29

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

bryd ymrafaelus y Cymry, yr hyn a gyfrif am eu colliad o'u gwlad a'u cyflwr tlawd ar hyd yr oesau, yr hyn a'u cadwodd yn ddigyfleusdra addysg a gwareiddiad. "Hwy allasent gadw y Rhufeiniaid a'r Sacsoniaid allan o'u gwlad pe buasent yn unfryd a heddychol a'u gilydd; ond rhaid addef mai dynion diffaith, cynenus, drwg, oeddynt na fedrent gydfod fel brodyr yn nghyd." Ac ebai eto, "Odid fyth y byddai heddwch parhaus yn y deyrnas, y trechaf yn treisio y gwanaf," &c. "Dylyn eu hen gamp ysgeler a wnaethent hwy fyth i ymryson a mwrddro eu gilydd, fel y gwelwch adar y to yn ymgiprys am ddyrnaid o yd," &c.

XXVIII.

Ond nid eu hymrysongarwch a'u hymrangarwch oedd unig ddiffyg y Cymry, eithr yr oeddynt yn ddiystyr o werth arfau effeithiol, ac yn ddisylw o werth medr i ryfela. Fel y dywed awdwr y "Drych," "Ni wna gwr dewr, heb fedr, ond sawdiwr trwsgl," ac ymadrodd yn arddangos yr un diffyg yw hwnw o eiddo Giraldus Cambrensis a ddywed a ddefnyddiwyd gan Harri yr Ail mewn llythyr at Ymerawdwr Caercystenyn, sef "fod pobl o fewn cwr o ynys Prydain, a elwir y Cymry, a rhai yn hyderus ddigon ymladdent law-law heb ddim ond y dwrn