a ddengys arfer Cymru yn y gorphenol, a'i thynged yn y dyfodol: Yr oedd Peredur yn fab i deulu ag oedd yr oll ond ei hun wedi eu lladd mewn rhyfel-tad a chwech o feibion. Fel canlyniad hyn ymneillduodd y fam gyda Peredur i wlad anial ac anghyfanedd. Yno ni chai Peredur gymdeithas neb ond benywod a llanciau a gwyr diymgais. Felly magwyd ef yn ddibrofiad. Ymddifyrent a'u gilydd drwy chwareu a choed yn lle a chleddyfau. Ond un dydd canfu Peredur farchog, a chyffrowyd ynddo hen ysbryd arwrol ei gynafiaid, a rhaid oedd iddo fyned i'r byd, a llesmeiriodd ei fam pan y clywodd hyny. Fodd bynag, aeth Peredur allan i'r byd, ac ar fyr yr oedd y marchog mwyaf enwog, a dymunai Arthur ei gymdeithas o bawb, oblegid aeth ei enw ar led y gwledydd. Gelwid ef yn Flodeuyn y Marchogion ac yn Llewyrch Arwriaeth. Bu y Brython ar hyd yr oesau yn treulio ei oes mewn anial anghyfanedd, yn ddibrofiad. Rhaid i Gymru ddyfod allan o gylch ei dygiad i fyny a'i chydymgystadleuaeth a hi ei hun, a myned allan fel Peredur i herio y byd a gorchfygu y gwledydd mewn celf, dysg, moes a chrefydd cyn y cyfrifir hi yn arwrol. Dan arweiniad iawn a chydag addysg a phrofiad y mae Cymru yn alluog drwy gynysgaeth naturiol i ddyfod yn Flodeuyn a Llewyrch Arwriaeth.