Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Am Dro i Erstalwm.djvu/99

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon




Bynag dir neu wlad y rhodiwyf,
Son am Gymru nid anghofiaf;
Dros holl donau troion bywyd
Yn fy mryd i Gymru nofiaf.

Yno mae fy serch yn aros,
Yno mae fy mryd yn trigo;
Nid anghofiaf mewn un oror
Garu Cymru a'i bendigo!