Pwy yw yr arwr? Pwy ddylai gael
Llawryfon anrhydedd i harddu ei ael?
Mi wela'r Gorchfygwr yn ymdaith drwy waed,
Gan fathru teyrnasoedd yn llwch dan ei draed:
Ei folawd adseinir mewn dinas a thref,
A'r mynor tryloew a draetha'i glod ef;
Efe yw yr arwr,—efe sydd yn cael
Llawryfon anrhydedd i harddu ei ael.
Ond wele'r Dyngarwr yn dyfod o draw,
A chleddyf gwirionedd yn loew'n ei law:
Ymdeithio, ymdrechu dros Iawnder y mae,
A chodi'r adfydus o ddyfnder ei wae ;
O'i flaen mae Trueni,—ond beunydd o'i ol
Daw blodau i'r anial fel gwanwyn i'r ddol.
Ardderchog Ddyngarwr! pwy draetha ei oes?
A'i fynwes yn wenfflam gan gariad y Groes.
Mae llwybrau ei fywyd yn wyn a di-staen,
Ac erys ei enw pan dodda y maen!
Efe yw yr arwr, — efe sydd i gael
Llawryfon anrhydedd am byth ar ei ael.
Ond y mae Dyngarwch yn cyrhaedd ei bwynt uchaf pan wedi ei hydreiddio âg ysbryd crefydd, ac wedi ei wregysu â nerthoedd ffydd.
Ac at wroniaeth yn y ffurf ddyrchafedig hon y gwahoddir sylw y darllenydd—ac yn enwedig darllenwyr ieuainc Cymru—yn yr hanes sydd yn canlyn,—Gwroniaid y Ffydd. Y mae rheswm yn arbenig y dyddiau hyn dros gyffroi meddyliau ein gilydd i astudio ac i ddeall hanes rhag-redegwyr ein rhyddid crefyddol a'n breintiau cymdeithasol. A swm mawr o aberth a dioddef y cawsom ni y ddinas-fraint hon. Fel y dywed Iolo Carnarvon yn ei arwrgerdd gyfoethog—"Ardderchog Lu y Merthyri:"
Nid gwlad o ddydd, o ryddid, ac o freintiau,—
O fawl, Sabbothau tawel, ac o demlau,
Erioed oedd Cymru,—gwelodd hithau fflamau:
A phrofodd arswyd, newyn, ac arteithau!