ffrwd sïog hon, cefais ambell eisteddle hyfrydlawn iawn, yr hon oedd fel myneg-bost, fod rhywun yn agos yno a fyddai yn mwynhau tawelwch ac unigrwydd, Dilynais y ffrwd nes i mi gael fy atal gan glawdd gardd, golwg yr hon a'm synodd yn fawr iawn. Aethym drwy y drws i'r ardd, a cheuais y ddor ar fy ol, ac os mawr oedd fy syndod wrth olygu y lle hwn oddiallan, mwy fyth wedi fy myned y tu fewn iddo. Yr oedd y ty bron yn nghanol yr ardd toasid ef â gwellt, yn dra chelfyddgar, a phendist bychan wrth y drws, lle yr oedd mainc bob ochr
gwinwydden ragorol oedd hefyd yn troi oddiamgylch i'r pendist, gan ledaenu ei changenau ar hyd mur y ty; ac wrth syllu ar yr adeilad, a rhyfeddu harddwch y lle, gwelwn aderyn bach yn ehedeg heibio i mi, ac i nyth oedd wedi ei wneyd dan y ffenestr ar du deheuol y ty. Wel, ebe fi, dyma arwydd amlwg mai gŵr heddychol sydd yn trigo yma, yr hwn ni niweidia hyd yn nod aderyn y to."
Dyna'r bwthyn. Beth am ei breswylydd? Mae y lle a'r olygfa yn parotoi y meddwl i ddisgwyl gweled rhywun yn meddu calon i deimlo anian, a llygad i'w gweled.