llwyn, a'r fynyd fythgofiadwy pan fflachiodd y gwirionedd ar feddwl y tad fod yr un y taenasai ei aden drosto, yn bygwth ei ysbeilio o eilun ei aelwyd. Ond daeth tranoeth teg wedi yr ystorm, a gwelwn y bardd a'i gymar yn gadael hafan priodas, ac yn hwylio yn mlaen heb un don wgus ar for eu hamgylchiadau. Eithr byr fu parhad y gwynfyd. Yn mhen pum' mlynedd chwythodd awel ddeifiol dros yr anedd, a gwelodd y bardd wraig ei ieuenctid yn diflanu o'i wydd fel rhosyn yr haf. Aeth yn wallgof o'r bron dan bwys gofid a hiraeth. Collodd cartref-collodd pobpeth ei swyn yn ei olwg. Penderfynodd fyned i ryw fro bell i dreulio gweddill ei ddyddiau mewn unigedd. Cyn ei fyned, fodd bynag, y mae yn cael gweledigaeth ryfedd: Y mae Rhagluniaeth, ar ffurf ddynol, yn ymddangos iddo, ac yn ei wahodd i ddyfod ar daith, ac yntau yn cydsynio. Am fanylion y daith hynod, rhaid cyfeirio y darllenydd at yr hanes ei hun. Ei hamcan ydoedd dwyn y bardd gofidus i weled fod trefn ac iawnder wrth wraidd yr amgylchiadau sydd mor ddyrys i blant dynion yn bresenol. Wedi ei arwain yn mraich gweledigaeth i sylwi ar helynt dynolryw yn y bwthyn a'r palas, y mae ei gydymaith nefol yn ei adael, a hyny, gellid meddwl, yn well a doethach dyn. Dysgodd ddwy wers yn arbenig, (1) Fod gofidiau y ddaear yn cael eu rhanu yn hynod o gyfartal; (2) Mai diddyfnu dynion oddiwrth y daearol a'r darfodedig ydyw amcan aml i genad sydd yn dyfod atom yn ngwisg profedigaeth.
Yn ddilynol ceir y bardd yn cychwyn ar fordaith i fro bellenig, ac yn cyraedd Ynysoedd y Tawelfor. Mae y desgrifiad a roddir o losg-fynydd ac o ogof danllyd ar fin y môr, yn cynwys gair-ddarluniad ardderchog. Penderfynodd aros gyda boneddwr Prydeinig yn un o'r ynysoedd hyn, a bu agos i'r hanes derfynu yn y fan yna. Cafodd ei anfon gan y boneddwr caredig (?) i blanigfa gotwm oedd