Tudalen:Anthropos-Gwroniaid y Ffydd.djvu/32

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Y mae'r iaith Gymraeg yn fyw, ac i fyw. Y peth nesaf fydd codi colofn deilwng ar fynyddau Eppynt er coffadwriaeth ddidranc am y gwron ieuanc o'r Cefnbrith.

Gallesid lluosogi esiamplau lawer, ond gwell genym ymattal. Peth cyffredin yn y cyfnod hwn ydoedd i bobl. barchus, grefyddol, gael eu llwytho â heiyrn, eu taflu i garcharau gyda scum cymdeithas, a'u gadael yno i ddihoeni—weithiau am flynyddau—heb roddi un math o brawf arnynt. A phaham? A oeddynt yn euog o droseddau anfad? A oeddynt yn taflu diystyrwch ar gyfraith gwlad? Nac oeddynt ddim. Pe felly buasai eu tynged yn gyfiawn. Eu hunig gamwedd ydoedd eu bod yn methu derbyn y golygiadau a'r gwasanaeth a wthid arnynt gan y Frenhines a'i chyngorwyr. Dioddefasant oherwydd cydwybod, a thros egwyddor a gredir yn ddiameu yn ein plith, mai "rhydd i bob dyn ei farn, ac i bob barn ei llafar."

Y "SPANISH ARMADA."

Cymerodd amgylchiad le tua chanol teyrnasiad Elizabeth a liniarodd y sefyllfa adfydus hon am dymhor. Yr oedd y deyrnas yn yr adeg hon yn Brotestanaidd o ran proffes, er fod gweithredoedd cwbl groes i ysbryd Protestaniaeth yn cael eu cyflawni ynddi. Ond dyna oedd cyffes ffydd y Frenhines a'i Llys. Yn y cyfamser, gwnaed ymgais i ennill Prydain yn ol dan awdurdod y Pab. Blaenor yr ymgyrch hon ydoedd Phillip o Ysbaen,—erlidiwr dihafal. Ei ddrychfeddwl ef oedd y Llynges. anferth, herfeiddiol hono a adwaenir wrth yr enw "Armada." Yr amcan oedd glanio yn Lloegr, a goresgyn y wlad. Pan ddaeth y newydd i'r deyrnas hon ymunodd pob plaid, pob gradd, i wrthwynebu y gelyn. Ffurfiwyd arflynges Brydeinig ar y Dafwys. Aeth y Frenhines yn bersonol i Tilbury; ac yno, oddiar ei rhyfel-farch, traddod-