Tudalen:Anthropos-Gwroniaid y Ffydd.djvu/36

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PENNOD V

Y RHYFEL CARTREFOL.

NA daeth Siarl I. a'i deyrnasiad cyffrous,—y gwrthdarawiad rhwng y Brenhin a'r Senedd, a'r Rhyfel Cartrefol. Wedi brwydro caled a maith, gorchfygwyd plaid y brenhin. Cymerwyd yntau i'r ddalfa, rhoddwyd ef ar ei brawf yn Westminster, ac ar ol ymchwiliad llym, cafodd ei ddedfrydu i golli ei goron a'i ben. Dienyddiwyd ef yn Whitehall yn 1649.

CROMWELL.

Un o ddynion mwyaf, hynotaf y cyfnod hwn ydoedd Cromwell. Efe oedd prif amddiffynydd rhyddid gwladol a chrefyddol yn erbyn gormes a thraha y brenhin a'i lys. Codwyd ef yn arweinydd pobl mewn argyfwng pwysig. Puritan manwl oedd Cromwell o ran ysbryd a moes, ac yr oedd ganddo fyddin o wŷr o gyffelyb feddwl. Gelwid hwy yn "Ironsides,"-yr "ochrau dur." Yr oeddynt yn anorchfygol. Daeth Cromwell yn flaenor y weriniaeth: ei ysgrifenydd cartrefol oedd John Milton, awdwr "Coll Gwynfa." Dyna ddau o arwyr rhyddid,-y naill yn gwasanaethu ei wlad gyda'r cledd, y llall gyda'r ysgrifell : y naill yn gwasanaethu ei oes, y llall yn gwasanaethu yr oesoedd oll. ******* Claddwyd Cromwell yn Westminster Abbey, ond taflwyd anfri ar ei weddillion. Codwyd ei esgyrn o'r bedd, a llosgwyd hwy ar yr heol. Yr oedd y weithred hono yn