Tudalen:Anthropos-Gwroniaid y Ffydd.djvu/39

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

blwyfoliaeth Llanfaches, sir Fynwy. Yr oedd yn llawn haner cant oed cyn profi argyhoeddiadau crefyddol yn ei ysbryd ei hun. Daeth hyny oddiamgylch mewn modd hynod. Ymddengys fod Wroth yn dra hoff o'r delyn a'r crwth. Mynych y chwareuai yn mynwent y plwy er difyrru'r bobl ar y Sabboth. Ac un adeg yr oedd cyfaill iddo ar fedr ymweled â Llundain,—digwyddiad lled bwysig yn y dyddiau hyny. Cyn cychwyn oddicartref addawodd brynu telyn newydd i'r ficer yn y brif-ddinas. Aeth yr ymdeithydd i'w ffordd, a mawr oedd disgwyliad Wroth am y delyn newydd. Ond ni ddychwelodd yr ymwelydd i Lanfaches. Bu farw ar y daith. Troes y disgwyl yn siomedigaeth, ygorfoledd yn alar. Ond bu y brofedigaeth yn foddion gras i William Wroth. Taflwyd diflasdod ar y delyn a'r crwth, ac yn lle difyrru'r plwyfolion yn y fynwent, ymroddodd i bregethu o ddifrif yn yr eglwys.

Bendithiwyd ei ymdrechion. Argyhoeddwyd llawer, ac yn eu plith yr oedd gŵr ieuanc o'r enw Walter Cradoc..

Ond dechreuodd y gelyn gynhyrfu yn ei erbyn. Yr oedd pob croesaw i William Wroth chwareu'r delyn yn y fynwent ar y Sabboth, ond nis gellid goddef iddo godi ei lef yn yr eglwys yn erbyn halogi'r Sabboth, ac ymroi i oferedd. "Llyfr y Chwareuon" oedd y maen tramgwydd.. Dyna brif lyfr ficer Llanfaches am flynyddau; ond wedi agoryd ei lygaid i sylweddau ysbrydol, nis gallai edrych arno, chwaethach ei ddarllen i'w blwyfolion.

Cafodd ei fwrw allan o'r Eglwys Sefydledig. Casglodd gynulleidfa yn nghyd yn Llanfaches; ac yno, yn y fl.. 1639, y sefydlwyd yr Eglwys Anghydffurfiol gyntaf yn Nghymru.

WALTER CRADOC.

Syrthiodd mantell Wroth ar Walter Cradoc. Ganwyd ef yn y fl. 1600, yn Nhrefela, ger Llanfaches. Hanai o