Tudalen:Anthropos-Gwroniaid y Ffydd.djvu/52

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

YN NYDDIAU EDMWND PRYS.

"Gyda Hymnau Pantycelyn,
Canwn Salmau Edmwnd Prys."

Y MAE enw y gwr uchod yn taro'n naturiol ar glust y Cymro. Gellir ei ystyried yn air teuluaidd yn Nghwynedd. Ac eto y mae mesur o dywyllwch yn bod ar hanes y gwr a roddodd y fath fri ar yr enw fel nad ydyw treigliad canrifoedd wedi ei wisgo i ffwrdd oddiar gof ei wlad. Pa bryd yr ydoedd yn byw? Yn mha le yr oedd ei breswylfod? Pwy oedd ei gydoeswyr? Beth a wnaeth i beri i'w enw gael ei drosglwyddo i'r dyfodol?

Sylwn, yn mlaenaf, ar

Y CYFNOD.

yr oedd yn byw ynddo. Ganwyd ef yn y flwyddyn 1541, a dirwynodd edef ei fywyd ymlaen hyd 1624;—83 o flynyddau. Gwelir fod y rhan fwyaf, a'r rhan bwysicaf o'i oes, yn gorwedd o fewn terfynau yr unfed-ganrif-ar- bymtheg. A chanrif gofiadwy oedd hono: y mae wedi gadael ei hol yn ddwfn ar hanes ein byd. Y mae ambell ganrif, fel ambell i flwyddyn, heb ynddi ddim hynod na chyffrous; dim cwestiynau bywydol yn cael eu trafod, dim antur na dyfais. Gwastadedd undonnog ydyw ambell ganrif yn hanes gwlad. Y mae un arall fel daeargryn yn ysgwyd colofnau teyrnasoedd, yn newid gwyneb cymdeithas. "Y gwŷr a wneir yn uniawn, a'r anwastad yn wastadedd." Adeg felly oedd yr unfed-ganrif-ar-bymtheg. Ysgytiwyd Ewrop gan nerthoedd cryfach nac eiddo