Tudalen:Anthropos-Gwroniaid y Ffydd.djvu/54

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Prydain Fawr:—Edward VI; Mary; Elizabeth; ac Iago I. Yr ydoedd yn 18 oed pan esgynodd Elizabeth i'w gorsedd yn 1558. Yr ydoedd yn 26, pan gyhoeddwyd Testament William Salisbury yn 1567. Yr ydoedd yn 47, pan ymddangosodd Beibl Dr. Morgan yn 1588. Ac yr oedd yn 52, pan ddienyddiwyd John Penri yn 1593. Yr oedd yn cyd-oesi i fesur mwy neu lai â Chalfin a Melancthon; John Knox yn Ysgotland, ynghyda lluaws o ferthyron Protestanaidd Lloegr. Yn y dyddiau hyny, y blodeuodd awen ac athrylith Shakespeare. Nid oedd

TAN Y DIWYGIAD.

wedi dechreu goddeithio Cymru. Nid oedd "Canwyll y Cymry" wedi eu goleuo, ac yr oedd can' mlynedd yn gorwedd rhwng Edmwnd Prys a'r dyddiau hyny pan glybuwyd "llef Duw mewn llif o dân" yn ngweinidogaeth nerthol, anorchfygol Howell Harris a Daniel Rowland, Llangeitho.

Ond yn yr adeg hon, gwnaed gwaith mawr gan Gymry, a hyny dros Gymru: gwaith oedd i ddwyn ffrwyth toreithiog, yn mhen llawer o ddyddiau. Dyna'r pryd y rhoddwyd i'r Cymro Feibl yn ei iaith ei hun; dyna'r pryd y cafodd Salmau per-ganiedydd Israel eu dodi yn nhawdd-lestr yr awen Gymreig, a'u cymhwyso i fod yn gyfryngau moliant i drigolion Gwalia Wen.

Dywedir fod dynion mawr yn ymddangos yn drioedd, ac y mae hanes y byd yn dangos fod rhywbeth felly yn bod. Yr oedd llu o ryfelwyr dewr yn nyddiau Dafydd, brenhin Israel, ond yr oedd yno ryw dri chedyrn oedd yn rhagori mewn antur a gwroldeb—cedyrn Dafydd. Yn mysg y Tadau Eglwysig, yr oedd tri yn rhagori mewn dysg a dawn,—Origen, Awstin, ac Athanasius. Yn nglŷn â'r Diwygiad Protestanaidd yr oedd tri enw oeddynt yn meddu personoliaeth gryfach, a dylanwad dwysach na'r lleill,—