Gall rhywun ddadleu fod ychydig o wybodaeth yn well na dim; ond nid dyna feddwl y bardd. Dyweyd y mae efe nas gall barn fawr a gwybodaeth fechan gydsefyll. Os am farn gref, oleuedig, rhaid yfed yn helaethach hyd o ffynon fyw gwybodaeth. Un o wirebau y diweddar Mark Pattison ydoedd: "A man should not talk about what he does not know." Pe cedwid at y rheol euraidd hon gan gymdeithas, oni fyddai yn y byd gryn lawer mwy o ddistawrwydd?
CYDYMDEIMLAD.
Y mae efrydiaeth o unrhyw bwnc yn creu awyrgylch o gydymdeimlad yn y meddwl. Yr ydym wedi dyweyd fod teimlad, ar brydiau, yn niweidio barn. Ond y mae yr un mor wir fod cydymdeimlad yn anhebgorol i farnu unrhyw waith neu gyfansoddiad. Ofer ydyw gosod dyn heb gydymdeimlad â barddoniaeth i farnu penill neu englyn. Yr oedd gŵr mewn cyfarfod llenyddol lled bwysig yn dyweyd ei fod ef yn barnu y buasai yn well i'r pwyllgor roddi gwobr am olwyn berfa neu olwyn trol, nag am wneyd englyn,-fod y pethau blaenaf yn fwy defnyddiol. Ond erbyn edrych, mechanic oedd y dyn; yr oedd ganddo gydymdeimlad âg olwynion, ond yr oedd yn hollol o'i le pan yn cyffwrdd âg englyn. Dro yn ol gwelais ddarlun o awdwr yn darllen ei waith newydd i nifer o gyfeillion mewn ystafell. Yr oedd efe, hapus ŵr, wedi ymgolli yn ei ddrychfeddyliau; ond am danynt hwy, yr oedd un yn dylyfu gên, a'r llall yn astudio y darluniau ar y pared! Ond y mae yn eithaf posibl y byddai y ddau yn traethu barn ddiysgog ar y gwaith yn y diwedd. Eto yr oedd peth mawr yn absenol—cydymdeimlad. Hwn sydd yn dwyn y beirniad i gyffyrddiad byw âg ysbryd yr awdwr—yn ei godi i edrych ar y pwnc oddiar yr un saf-bwynt ag