ei ben i lawr, y mae yn ei feddiant un peth nas gall etifeddion daear ei brynu-rhyddid barn. Dylai geiriau yr Apostol suddo i ddyfnder calon pob dosbarth-"I ryddid y'ch galwyd chwi." Sefwch ynddo, na ddefnyddiwch ef yn achlysur i'r cnawd.
AWDURDOD A THRADDODIAD.
Y mae dyn yn meddu y rhyddid hwn hefyd yn annibynol ar awdurdod dynol neu draddodiad. Yr oedd traddodiad y tadau yn llyffetheirio yr Iuddewon i ffurfio barn drostynt eu hunain. Ac y mae awdurdod eglwysig wedi cyffio rhyddid barn yn y byd crefyddol am oesau maith. Dyma un o ddrygau y Babaeth. Y mae yn gosod awdurdod Cynghorau a Chynhadleddau yn wrthglawdd ar ffordd llanw barn a llafar. Mae y dyn unigol yn rhoddi ei farn i fyny, fel y gwnaeth Cardinal Newman, ac yn ymgrymu i farnau llwydion hen Gynghorau ar y pynciau pwysicaf i ddyn eu deall a'u credu. Ond wrth ymddwyn fel hyn, y mae yn aberthu y rhodd ddwyfol o ryddid ar allor traddodiad. Nis gellir gwadu nad ydyw "traddodiad" yn allu pwysig yn Nghymru. Ceir lluoedd yn coleddu syniadau gwleidyddol a chrefyddol ar gyfrif y ffaith fod eu henafiaid a'u perthynasau yn gwneyd yr un peth. Nid ydym yn dyweyd fod eisiau anmharchu awdurdod neu ddibrisio traddodiad; ond rhagorfraint y dylai pob dyn ei gwerthfawrogi ydyw—fod ganddo ryddid i ffurfio barn ar bynciau mawrion cred a buchedd, yn hollol fel pe mai efe fuasai y dyn cyntaf a anwyd i'r byd. Y mae un awdurdod ag yr ydym yn ystyried ei lleferydd yn oruchaf, ond y mae hono wedi deilliaw oddiwrth Ffynnon rhyddid a Thad y goleuni. Breinlen Fawr—Magna Charta—rhyddid ydyw y Beibl. Y mae yn werth cofio mai y llyfr hwn yr edrychir arno fel awdurdod derfynol gan ddyn sydd, hefyd, yn hawlio i ddyn y rhyddid mwyaf goruchel y gall ei feddu