GWRONIAID Y FFYDD.
"THE HISTORY OF THE WORLD IS THE BIOGRAPHY OF GREAT MEN."
YN y flwyddyn 1840 y cyhoeddodd Carlyle ei lyfr adnabyddus ar "Wroniaid, yn nghyda'r elfen wronaidd mewn Hanes." Y mae llawer o bethau yn y llyfr sydd yn agored i feirniadaeth, ond nid oes neb a wad fod ynddo nerth ac ynni dihafal. Y mae awelon ysbrydoliaeth yn anadlu drwyddo, ac y mae ei bortreadau o'r gwron fel Bardd, Proffwyd, Duwinydd, a Diwygiwr, yn byw byth yn y meddwl a'r cof.
Ac ar y cyfrif hwn, yr wyf yn cymeryd fy nghenad i ddefnyddio rhai o sylwadau "doethawr Chelsea" fel rhagarweiniad i'r hanes sydd yn canlyn am "Wroniaid y Ffydd." Nis gwn am ddim mor addas i barotoi meddwl y darllenydd ieuanc, ac i'w osod mewn cydymdeimlad â'r cymeriadau hyny sydd yn haeddu cael eu hanrhydeddu gan bob cenedlaeth ac oes. Dyma fel y mae Carlyle yn traethu ei len ar y pwnc:
"Yr wyf yn ymwybodol fod arwr-addoliaeth, neu y peth a alwaf fi yn arwr-addoliaeth, yn y dyddiau hyn, wedi diflanu. Y mae hon yn oes sydd yn gwadu bodolaeth dynion mawr,yn gwadu yr angenrheidrwydd am danynt. Dangoswch i'r beirniaid hyn ddyn mawr-dyn fel Luther, er esiampl, ac yna y maent yn dechreu rhoddi'cyfrif' am dano. Yr oedd yn greadur ei oes,' meddent; ei oes a'i galwodd allan, ei oes a wnaeth y cyfan, ac yntau ddim, ond yr hyn a allasai y beirniad bychan ei wneuthur yn ogystal! Y mae hyn yn ymddangos i mi yn waith pruddaidd. Ei oes a'i galwodd i fod, aie? Ha! yr ydym yn gwybod am oesau wedi galw yn uchel am y dyn mawr, ond yn methu ei gael! Nid oedd efe yno: nid oedd Rhagluniaeth, wedi ei anfon, ac er i'r oes lefain yn uchel am dano, nid ydoedd i'w gael. . . Yr wyf yn cyffelybu oesau difraw, dinod, gyda'u hanghredinaeth, eu helbulon, a'u haflwydd, i danwydd sych a marw, yn disgwyl am y mellt o'r