Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Anthropos-Gwroniaid y Ffydd.djvu/81

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Socrates yn gyfaill, ond fod gwirionedd yn fwy o gyfaill iddo na'r ddau. Gall llu o oleuadau eraill fachlud, ond byth ni ddiffydd goleuni y gwir. Dilynwn hwnw i ba le bynag yr elo. Y mae dynion, wrth ganlyn y gwirionedd, wedi myned drwy y tân a'r dwfr; ond ni foddwyd eu hegwyddorion gan y dyfroedd, ac ni losgwyd eu crediniaeth gan y fflam. Yr oll a wnai tân merthyrdod oedd puro eu sothach, a'u gwneyd yn fwy o allu yn y byd fel amddiffynwyr gwirionedd. Cymerwn ninau Wirionedd yn golofn dân i'n harwain drwy anialwch amheuon i Ganaan sicrwydd cred a barn.

Y DDYLEDSWYDD O FEDDWL.

Meddyliwn drosom ein hunain. Gwendid mewn dyn ydyw meddwl llawer am dano ei hun; ond mawredd yn mhawb ydyw meddwl llawer drosto ei hun. Gochelwn fod yn Gibeoniaid meddyliol, gan dreulio ein hoes yn gymynwyr coed ac yn wehynwyr dwfr i eraill. Beiddiwn feddwl nes meddu ar syniadau y gellir dyweyd am danynt iddynt gael eu bôd “on the premises." "Ni raid i Arthur wrth ffyn baglau;" a rhagoriaeth meddyliwr ydyw medru cerdded drosto ei hun.

Nis gallwn derfynu heb grybwyll y ffaith fod yn bosibl, ac yn angenrheidiol i ddyn rai gweithiau newid ei farn. Yr oedd diweddar arweinydd Ty y Cyffredin yn hòni iddo ei hun yr hawlfraint hon, ac yn ymddangos yn benderfynol o'i hawlio mewn dull a gyfiawnhai sen ei gydlafurwr cariadus, Mr. Chaplin, fod rhai dynion yn newid eu barnau yn fuan iawn! Tra yn dadleu dros ddiysgogrwydd mewn barn, nid ydym am hòni iddi anffaeledigrwydd. Mae y dynion mwyaf wedi newid eu barn ar lawer pwnc. Fe ysgrifenodd Awstin gyfrol i alw yn ol sylwadau a wnaethai mewn blynyddau blaenorol ar faterion duwinyddol, am fod ei farn am danynt wedi cyfnewid. Ond ni ddylai hyn fod