CASTELL CAERNARFON.
YSBRYD RHYDDID.
MAE ysbryd yn y castell hwn: Ac nid oes Gymro dan y nef, Eill basio tan y muriau mawr, Na sylla'r ysbryd arno ef; O ben y tŵr a phen y mûr, Fe laddodd filoedd yn ei wg; Ond ysbryd da yw ef yn awr, Er iddo fod yn ysbryd drwg. —Ceiriog.