cryn niwaid i fynych wendid yr awdwyr. A phan fyddai gwŷr pwyllgor fel y diweddar Dr. Edwards, o'r Bala, yn ceisio cymedroli y fath ormodiaeth, mawr yr helynt a ddigwyddai ar feusydd y cylchgronau a'r newyddiaduron. Erbyn hyn, y mae caredigion ein cenedl yn credu fod y ddau eithaf a nodwyd yn feius, ac yn dra anfanteisiol i wir gynydd.
Ar un llaw, y mae yn anheilwng o Gymro i ddibrisio y wlad a'i magodd. Os yw yn teimlo fod yna lawer o bethau y dylid eu gwella, ei ddyledswydd fel gwladgarwr ydyw gwneyd ei oreu i symud y tramgwyddiadau, a dyrchafu cymeriad Cymru, yn ddeallol a moesol, i dir uwch. Ac y mae gan y Cymry ar wasgar, y rhai y mae eu llinynau wedi syrthio yn mysg cenedloedd eraill, gyfleusderau godidog yn y cyfeiriad hwn. A hyfryd ydyw meddwl fod gwaith rhagorol yn cael ei wneyd allan o Gymru, a hyny dros Gymru. Lefeinir meddyliau cenedloedd y byd gan ddylanwad iachus y Cymry gwladgarol hyny sydd yn ymladd brwydr bywyd ochr-yn-ochr à goreuon gwledydd eraill. Y mae Dic Shon Dafydd erbyn heddyw yn fod dirmygus i'r eithaf y mae ysbryd Rhyddid wedi ei wânu â'i gledd:
Ai tybed fod y cyfryw un,
Na dd'wedodd rywbryd wrtho'i hun,—
Hon yw fy ngenedigol wlad!
Yr hwn ni ŵyr am ysgafn fron,
Pan ddychwel eilwaith dros y dòn,
Yn ol i fro mabolaeth fâd:
Os oes fath un o dan y nef,
Ni ddyrcha beirdd ei glodydd ef,—
Er meddu swydd ac uchel sedd,
A llawnder byd o'r cryd i'r bedd,
Er maint ei gyfoeth, dwl yw'r dyn,
Sy'n byw yn hollol iddo ei hun.