Tudalen:Ap-Vychan-CyK.djvu/101

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

YMWELIAD A GLAN Y MOR.

Oddeutu hanner can' mlynedd yn ol.

𝖄N y flwyddyn 1830, aeth gwr ieuanc o fynydddir Cymru i weithio ei gelfyddyd i blith Saeson y Mers, a threuliodd yr haf a'r gauaf dilynol yn eu plith. Fel yr oedd y gwanwyn yn ymwthio ymlaen i ddiorseddu y gauaf, teimlai fod rhyw wendid dieithrol iddo ef wedi ymallyd yn ei gyfansoddiad. ac ymofynnodd â meddyg beth a fyddai oreu iddo ei wneuthur. Cynghorodd hwnnw ef i dalu ymweliad am rai wythnosau, neu fisoedd, os gallai, â glan y mor; ac wedi trefnu pethau i foddlonrwydd gyda y bobl y gweithiai ei gelfyddyd yn eu plith, efe a ymbarotodd tuag at gychwyn i'w daith. Yr oedd yn gydnabyddus ag arfordiroedd Aberteifi, a Meirionnydd hefyd: ond yr oedd glannau môr yn Arfon a Mon, Dinbych a Filint, yn hollol ddieithr iddo; gan hynny, penderfynodd fyned i'r lleoedd nad ymwelsai â hwynt erioed o'r blaen. Penderfynodd yr ai i Fangor i ddechreu, ac oddi yno i leoedd eraill wedi hynny. Ffordd hwylus iawn i gyrhaeddyd Bangor fuasai cymeryd ei le ar y llythyr-gerbyd oedd yn rhedeg o Lundain i Gaergybi; ond yr oedd rheswm cryf ac effeithiol iawn yn erbyn hynny yn ei logell ef. Gwelodd mai y ffordd esmwythaf a diogelaf iddo oedd ceisio cyflawni y daith ar ei draed, yn araf, fel y gallai.

Meddai y gwr ieuanc amryw fanteision i ymgymeryd a'r daith a fwriadai gyflawni. Yr oedd yn gerddwr da—yr oedd yn gydnabyddus a phob pregethwr, pob bardd, a phob llenor oeddynt wedi bod, neu a oeddynt yn bod y pryd hwnnw, yn agos i linell ei lwybr ef, hyd derfyn ei daith. Gwyddai am balasau