a dianc ymaith. Ymwasgarodd yr erlidwyr, rhai bob ffordd. Cafodd William Thomas fenthyg ceffyl, heb na chyfrwy na ffrwyn yn perthyn iddo. Aeth ef dros Hiraethog, a goddiweddodd y llofrudd ar y mynydd. Gofynnodd y llofrudd pwy ydoedd, ac i ba le y cyfeiriai. Atebwyd ef, a thwyllwyd ef yn hollol. Ymadawsant a'u gilydd ar gyfer Nantglyn; ond aeth Willim Thomas ar ei ledol i Ddinbych, a llwyddodd i'w ddal yn y dref honno. Anfonwyd ef i garchar Rhuthyn; symudwyd ef i Gaernarfon i gael ei brofi. Cafwyd ef yn euog o'r cyhuddiad, a dienyddiwyd ef ar Forfa Seiont, Medi 4, 1822.
Wedi gorffwyso noswaith yng Nghapel Curig, cychwynnodd Robert Oliver yn fore iawn tua Bangor. Cafodd gipdrem ar amryw o leoedd o hynodrwydd, ac ni welsai efe y fath leoedd gwylltion, creigiog, a elaregog, hyd y diwrnod hwnnw. Cafodd hamdden i gael golwg ar Chwarel Cae braich y Cafn, a chyrhaeddodd Fangor ymhell cyn y nos, Île y lletyodd y noswaith honno. Wedi cyrhaeddyd prif ffordd Caergybi yng Nghorwen, cafodd y troed-deithiwr y ffordd oreu yn y byd, ond odid, i'w cherdded, nes y cyrhaeddodd Fangor Fawr yng Ngwynedd.
ETHOLEDIGAETH.
𝕹ID yw etholedigaeth yn gwneyd drwg i neb, ond gwna dda i rif y gwlith. Nid yw yn rhwystro neb at Grist, ond y mae yn tynnu rhif y ser ato. Nid yw yn gwrthod neb, nid yw yn bygwth neb, nid yw yn condemnio neb; ond y mae, trwy ddwyfol ragluniaeth, gair Duw, a dylanwad yr Ysbryd Glân, yn ymgeleddu dynion rifedi tywod y môr.