Tudalen:Ap-Vychan-CyK.djvu/18

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ebai Deio; "tendiwch chwi eich hunain, os byddwch. chwi yn blant drwg.” Daeth adeg wedi hynny y gallem ni dderbyn athrawiaeth wahanol ar bwnc. y taranau a'r mellt, ond dysgeidiaeth Cadwaladr o'r Wern Ddu oedd oreu i dawelu ein hofnau ar ddydd y dymhestl honno.

Yr wyf yn cofio un cyffro teuluaidd mawr iawn yn ein ty ni. Aeth fy nhaid, Robert Oliver, a Margaret fy chwaer gydag ef (geneth oddeutu chwech oed pryd hwnnw), ar ryw ddydd teg yn niwedd mis. Medi, feddyliwn, i'r mynydd a elwir Ffridd Helyg y Moch i edrych am y gwartheg hesbion oedd yno dros. yr haf. Wedi cerdded cryn lawer yn y mynydd, a'r hen wr heb gael hyd i'r gwartheg, a Margaret bach yn blino cerdded drwy y grug, dywedodd ei thaid wrthi am eistedd yn llonydd mewn rhyw fan neillduol, tra y byddai ef yn myned ychydig ymhellach, ac y dychwelai efe ati yn ol cyn bo hir, fel y caent fyned adref ill dau gyda'u gilydd cyn y nos. Felly arosodd hi yno, ac aeth yntau ymlaen i edrych am yr anifeiliaid. Pan ddychwelodd i'r lle y gadawsai yr eneth, yr oedd hi wedi myned ymaith. Llwyr flinasai hi yn disgwyl am dano ef, ac aethai i grwydro, gan chwilio am ei thaid. Bu yntau yn chwilio yn hir am dani hithau, ac er iddo waeddi nid oedd neb yn ateb. Tybiodd efe y gallasai fod wedi dychwelyd adref, a throes yntau ei wyneb tua'r un man. Cyrhaeddodd i'r Ty Coch ar fin nos, a dechreuodd holi a ddaethai Margaret adref. “Naddo," meddai fy mam, "pa le y gadawsoch chwi hi?" Dywedodd yntau yr holl hanes. Cyffro mawr fu y canlyniad. Aeth y newydd drwg o dy i dy fel ar edyn y trydan. Cododd yr holl gwm allan, ac i'r mynydd a hwy, a mam gyda hwy, i chwilio am y lodes fechan. Nid oedd ganddynt ddim