Tudalen:Ap-Vychan-CyK.djvu/20

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

oedd y peth goreu i ni. Ofnai y llall y gallai y llwynog fod i mewn pan aem ni yno; ac felly, rhwng bod y llwynog i fewn, a "Boniparti" o'r tu allan a'i gleddyf yn ei law, y byddem ni mewn cyflwr peryglus rhwng y ddau. Pan oedd y mater dan ystyriaeth gennym, daeth y newydd fod brwydr fawr wedi ei hymladd, a'r penrhyfelwr wedi cael ei lwyr orchfygu, ac wedi rhoddi ei hun i fyny i'r Saeson yn rhywle ar y môr. Yr oedd y wlad yn llawn o ysbryd rhyfela y pryd hwnnw. Ymunasai dau frawd i fy mam â'r gwirfoddlu, ac yr wyf yn eu cofio yn dyfod adref unwaith yn eu gwisgoedd milwraidd i edrych am eu perthynasau. Bu llawer o ryfeloedd ar ol hynny rhwng gwahanol genedloedd yn Ewrop, a pharthau eraill o'r byd, ond y mae arwyddion yr amserau presennol yn awgrymu y bydd diwedd'ar ryfel yn y man. Yn fuan wedi terfyniad rhyfel Ffrainc, aeth ein bwthyn bychan ni, yr hwn oedd wrth dalcen y Ty Coch, yn rhy gyfyng i'r teulu cynyddol a gyfaneddent ynddo, a chafodd fy nhad ganiatad gan oruchwyliwr Syr Watkin i ail adeiladu hen dy adfeiliedig yn yr ardal o'r enw Tan y Castell. Costiodd hynny i'm rhieni dipyn o arian, a chollasant y pryd hwnnw bedair punt ar ddeg a roddasent yn fenthyg; a chyda hynny oll, dechreuodd y byd caled ac enbyd a ddilynodd ryfeloedd mawrion dechreuad y ganrif bresennol, wasgu yn drwm ar bob graddau, a darostyngwyd ninnau, fel llaweroedd, i afaelion tlodi a chyfyngderau dirfawr. Yr wyf yn cofio mai ty newydd tlawd iawn oedd ein ty newydd ni. Yr oeddym erbyn hyn yn deulu lluosog, a swllt yn y dvdd, ar ei fwyd ei hun, oedd cyflog fy nhad yn yr hanner gauafol o'r flwyddyn, ac yr oedd hanner pecaid o flawd ceirch yn costio i ni ddeg swllt a chwe cheiniog; felly, prin y gallem gael bara, heb son am enllyn, gan y drudan-