Nid oedd Thomas Jones gyda chrefydd; ond yr oedd ei dad a'i fam, a thair chwaer iddo, yn aelodau ffyddlon gyda y Methodistiaid, a'i frawd Simon Jones, yn perthyn i'r Annibynwyr. Simon oedd yr unig un o'r meibion oedd gyda chrefydd. Teulu dedwydd iawn, hawddgar dros ben, oedd teulu y Lôn, a bum yn nodedig o gysurus gyda hwy. Y modd y cefais i fyned yn egwyddorwas oedd, drwy i'r diweddar Barchedig Michael Jones, gweinidog yr Hen Gapel, roddi i mi y flwyddyn honno arian prentisiaeth plant tlodion rhieni crefyddol, oedd wedi eu gadael yn ewyllys Dr. Daniel Williams, mewn cysylltiad ag Ysgol Rad y Dr. yr hon oedd dan ofal y Parch. M. Jones. Gyda llaw, Mr. Jones, yn ddiau, oedd y dyn cryfaf ei feddwl a pherffeithiaf ei fuchedd a gyfarfum i erioed. Nid oedd bwlch yn ei nodweddiad; ond cafodd driniaeth chwerw yn Llanuwchllyn. Mae hanes yr ymraniad a fu yno i'w gael yn "Hanes Eglwysi Anibynnol Cymru," fel na raid i mi ychwanegu.
Pan ddaeth fy amser i fyny yn y Lôn, aethum i weithio at Mr. Robert Roberts, Ty'n y Cefn, ger Corwen. Bum yno am chwe mis. Dyn medrus fel celfyddydwr oedd fy meistr. Yr oedd hefyd yn gryn ddarllennwr, a chanddo lawer o lyfrau pur dda. Ond y pryd yr oeddwn i yno, yr oedd yn arfer meddwi yn fynych iawn; ond tyngodd y ddiod feddwol, a bu yn llwyrymwrthodwr â hi tra y bu byw. Yr oedd hynny flynyddau cyn i lwyrymataliad ddyfod i Gymru.
Gadewais Dy'n y Cefn, yn nechreu Mai, 1829, ac aethum i weithfaoedd Deheudir Cymru i weithio am rai misoedd. Bum yn Nhredegar a Dowlais, a dysgais gryn lawer yn y misoedd hynny. Pan yn Dowlais,