rhwng y ty a Moel Llyfnant; yna dychwelent i'r ty yn ol i drin y gweill, fel o'r blaen, hyd amser swper, a'r addoliad teuluaidd a'i dilynai, ac yna pawb i orffwys, ac mor felus oedd cwsg yn y dyddiau hynny. Ac mor hoenus a diflinder oedd y cyfansoddiad pan ddeffroid yn y bore, wedi cysgu drwy y nos.
Nid llawer o lyfrau oedd ym meddiant y teulu; ond yr oedd yr ychydig a feddiannent yn rhai hynod o sylweddol ac adeiladol. Dysgwyd i'r rhai hynaf o'r plant ddarllen ac ysgrifennu, a rhifyddu rhyw ychydig, a darllen peroriaeth yn ol yr Hen Nodiant, sef yr unig nodiant oedd yn adnabyddus y pryd hwnnw ar aelwyd eu rhieni, cyn troi o honynt allan i'r byd i ymladd drostynt eu hunain. Eu gwaith ar ddyddiau gwlawog fyddai cordeddu a gwau; ond ar ddyddiau teg, agorodd Rhagluniaeth ddrws iddynt i ddilyn gorchwyl mwy enillfawr na gwau.
Ar ol terfynu o'r rhyfel mawr rhwng y wlad hon a Napoleon Bonaparte, daeth amser caled iawn ar weithwyr amaethyddol, crefft wyr, a man amaethwyr Cymru. Yr ydym yn cofio blwyddyn o falldod cyff- redinol ar yr yd, ac yr oedd bara iach yn beth di- eithr yn y wlad. Bychan iawn oedd cyflog gwr y ty a'r to rhedyn; ac er pob ymdrech o eiddo y fam a'r plant er ychwanegu tipyn at gyflog gwr y ty hwnnw, byd cyfyng a chaled oedd arnynt fel teulu dros amryw flynyddau. Ond fel yr awgrymwyd uchod, agorodd Rhaglun. iaeth dirion y nef iddynt ddrws o ymwared, i ryw raddau. Daeth y cen gwyn sydd yn tyfu ar gerrig yn nwydd i fasnachu ynddo. Cesglid ef oddiar y cerrig, a gwerthid ef i fasnachwr am geiniog y pwys, ceiniog a ffyrling, ceiniog a dimai, ac ychwaneg na hynny, pan y byddai galwad nehel am dano. Yr