CHWAREU TEG I'R LLUAWS.
𝕸AE pob un yn hoffi cael chwareu teg iddo ei hunan; ond nid pob un a ganiata yr un tegwch i'w gymydogion. Mae rhai personau unigol yn fwy aiddgar gyda golwg ar eu hawliau personol a theuluaidd nag eraill, a rhai cymydogaethau yn fwy parod i honni eu hawliau, ac i'w mynnu, na chymydogaethau eraill. Mae amgylchiadau, weithiau, yn tueddu i lenwi ardaloedd â llwfrdra a gwaseidd-dra, fel na cheir odid neb a gyfyd ei lais a'i law dros degwch a hawliau cydwybod mewn achosion o gryn bwys—rhai gwladol a chrefyddol.
Y mae un peth yn tueddu yn gryf i waseiddio ardal, sef fod yr holl dyddynod o'i mewn, neu yn agos yr oll o honynt, wedi dyfod i feddiant rhyw un tirfeddiannwr cadarn a chyfoethog, a hwnnw yn dwyn mawr eiddigedd dros Doriaeth, Whigiaeth, Llanyddiaeth, neu ryw aeth arall, ac yn barod i wgu ar ei ddeiliaid a farnont ac a weithredont yn groes i'w fympwyon ef ei hun, nes codi ofn ar boblach weiniaid i honni mai eu heiddo hwy yw eu heneidian eu hunain. Mae hanesyn ar fy nghof a esyd allan yr ynni oedd mewn ardal ym Mhenllyn, flynyddau yn ol, a'r eiddigedd oedd ym mysg y trigolion dros eu hawliau cymdeithasol. Yr wyf yn anfoddlon i'r hanesyn hwnnw fyned i dir anghof, a hynny yn fwy, oblegid y cyhuddir yr ardal honno yn bresennol, weithiau, o dipyn o waseidd-dra; ond er hynny, prin yr wyf yn credu fod y cyhuddiad yn un teg a sylweddol. Gwyddys fod rhyfel mawr a gwaedlyd wedi torri allan rhwng Lloegr a Ffrainc yn 1793, ac i'r rhyfel hwnnw barhau heb onid ychydig iawn o seibiant am 22 o flynyddau. Ymladdwyd brwydrau llofruddiog