Tudalen:Ar y Groesffordd.pdf/57

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

IFAN (yn ddig): Marchog y myniawyd, ai ê? Mae'n well gen i hynny na bod yn rhyw dderyn corff fel ti yn prowla am siawns i naddu arch i Dic Betsi. Rwan, Mr. Harris, mae'n bryd i ni gael e gwybod, ydach chi'n meddwl priodi merch Dic neu beidio, achos ryda ni bawb ers misoedd bellach mewn pryder ynghylch y peth.

JARED: Mae ngwaed i'n twymo wrth glywed dy hyfdra, Ifan Wyn. Wyt ti'n meddwl mai ti yw angel yr eglwys yn Seilo, dywed? Os wyt ti, mae'n hen bryd rhoi patsh neu ddau ar d'adenydd di a choblo dipyn ar esgyll dy bedion.

MR. HARRIS: Hanner munud, chaiff dau hen ffrind fel chi ddim ffraeo â'ch gilydd o'm hachos i.

IFAN: Pam ynte mae o'n pwyo'i wimblad i mi?

JARED: Pam rwyt tithau'n pwnio dy fyniawyd i mewn i fusnes y gweinidog? Mae'n ofnadwy o beth na chaiff Mr. Harris ddim priodi'r neb a fynno.

HOPCYN: Jared, nid gelyniaeth yn erbyn Mr. Harris sy gan neb ohonom, ond mae ar bawb ohonom ofn i chi briodi'r eneth yma, ac fe ddaeth pethau i boint heno pan y gwelsom chi â'ch braich am ei gwddw.

JARED: Wel, tawn i byth yn symud o'r fan ma! Hen lanc ydw i, a diolch i'r drefn am hynny, ond pe basa eglwys Seilo yn fy nal i'n gyfrifol i briodi pob geneth y bu'm llaw i am ei gwddw, mi