Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Archaeologia Lleynensis.djvu/48

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Crellas" Porth—Din—Llaen.

RHAG ofn nad yw ein darllenwr Cymreig wedi gweled y gair "Crellas" o'r blaen, ac er mwyn iddo beidio troi llygad cam arno â'i lygad chwith nâ'i lygad dê, ni a roddwn eglurhâd ar yr hyn ond odid a ymddengys ar yr olwg gyntaf yn dywyll, sef "Crellas"=crow + olas=crow=craw (gwêl craw yn crawen) + olas=Gwyddelaeg, eallagh=Llydawaeg,=oaled=aoled Cymraeg, aelwyd. Felly, enw yw yr uchod a ddefnyddid yn ein hên iaith am fythod, ac a roddir genym ni ar "gytiau-y-Gwyddelod" ym Mhorth-Din-Llaen, lle y gwelir olion amryw o honynt. Yr oedd y cyntaf a ddaethom o hyd iddo ar làn y môr yn ymyl craig, tuhwnt i'r Bywydfatty, yn mesur tuag wyth llâth o hyd, chwech o lêd, ac wedi ei wneyd o gerryg, yn ol arwyddion hên seiliau gweddilledig y murddyn. Yn nês ym mlaen, gwelsom un arall, yn ochr ceulan y môr, a'r ddaear wedi llithro i lawr iddo, a'i lanw. Yr oedd ffynhon fechan yn tarddu gerllaw; ac wedi holi, cawsom allan mai hên efail gôf oedd y lle hwn. Yn uwch i fyny, ar gŵr y penrhyn, gwelsom olion bythod wedi eu gwneyd o dywyrch. Yma y trigai y Gwyddelod hyny a agorasant ffordd o Borth-Din-Llaen i Chwilog. Deallwn iddynt hefyd ar y pryd adnewyddu llawer iawn ar y porthladd bychan hwn ei hun. Dywedir wrthym fod yna Gymmrodoriaeth wedi ei ffurfio yr adeg hono, gyda'r amcan o wneuthur Porth-Din-Llaen yn ganolbwynt masnach rhwng Y werddon â rhan ddeheuol Swydd Gaer yn Arfon. Llawer fu y dyfalu a'r ysgrifenu yng nghylch teilyngdod yr amcan mewn golwg. Ond er fod Caergybi ar y blaen, ac yn debyg o gadw y blaen, ar seiliau digon rhesymol, etto, dymunasem weled y porthladd hwn yn deilwng o'r enw beth bynag, ac o wasanaeth i bobl Lleyn, fel y bu yn yr amser gynt,