Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Argraphiad newydd o eiriadur beiblaidd (IA argraphiadnewydd00browuoft).pdf/186

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

a ddywedodd wrth yr angel, ac yntau a roes ei gleddyf yn ei wain drachefn (ad. 20, 27). Oddiwrth yr holl hanes, ymddengys fod yma offerynoliaeth uniongyrchol angel; a derbyn hwn yr enw pla.

Ac nid dyma'r unig esiampl sydd genym o offerynoliaeth angel yn gweinyddu barnedigaethau dwyfol. Priodolir dinystr byddin Sennacherib, nid i un clefyd, ond i offerynoliaeth angel: 'Ar Arglwydd a anfonodd angel, yr yr hwn a laddodd bob cadarn nerthol, a phob blaenor a thywysog yngwersyll brenin Assyria' (2 Cron. xxxii. 21). 'A'r noson hono yr aeth angel yr Arglwydd, ac a darawodd yngwersyll yr Assyriaid bump a phedwar ugain a chant o filoedd, a phan gyfodasant yn foreu dranoeth, wele hwynt oll yn gelaneddau meirwon' (2 Bren. xix. 35). Nid oes efallai un esiampl o glefyd yn cyflawni y fath ddifrodaeth eang mewn un noson; nid oes son fod un alarm yn y gwersyll; bu feirw y bobl yn ddisylw, ac heb neb yn maliaw am danynt, yr hyn nis dygwyddasai pe na fuasai dim ond gweithrediadau cyffredin a naturiol clefyd wedi cymeryd lle.

Mae rhai esponwyr gan hyny yn tybied i hyn gael ei ddwyn oddi amgylch trwy offerynoliaeth gwynt poeth heintiol a adwaenir yn y Dwyrain wrth yr enw samiel (simoom). Nid oes genyf amheuaeth,' medd Dr. Adam. Clarke, nad achoswyd dinystr y fyddin Assyriaidd, a sonir am dani yn Esa. xxxvii. 36, gan y cyfryw wynt heintiol. Gelwir "angel yr Arglwydd" yn bendant (ad. 7) רוח (ruach, gwynt), yr hyn, yn ol fy nhyb i, ni all adael un amheuaeth ynghylch y ffordd y dylid esponio yr adnod hon' (Harmer, Obs. i. 165). Nid yw y deongliad hwn yn cau allan y drychfeddwl o gyfryngwriaeth neillduol, neu hyd yn od wyrthiol Duw.

Yr unig ddesgrifiad o bla ac sydd yn dynesu at ddim cyffelyb i ddarluniad pendant o glefyd a geir yn Ps. xci. 3-7: Efe a'th wareda di oddiwrth haint echryslon. A'i asgell y cysgoda efe trosot, a than ei adenydd y byddi ddiogel; ei wirionedd fydd darian ac astalch i ti. Nid ofni rhag dychryn nos; na rhag y saeth a ehedo y dydd; na rhag yr haint a roddir yn y tywyllwch, na rhag y dinystr a ddinystrio ganol dydd. Wrth dy ystlys y cwymp mil, a deng mil wrth dy ddeheulaw; ond ni ddaw yn agos attat ti. Nid oes un lle i feddwl fod gan y Psalmydd ryw glefyd neillduol mewn golwg: amcan yr holl psalm ydyw darlunio diogelwch yr hwn sydd yn trigo yn nirgelwch yr Hollalluog' rhag pob math o ddrwg; ac er, yn mhlith drygau eraill, yr enwir yr haint, nid yw o angenrheidrwydd yn gyfyngedig i un clefyd neillduol; mae deall y darluniad fel un cyffredin am ddrygau yn fwy cydunol ac amcan ac yspryd y psalm. Arferir y gair mewn ffordd gyffelyb gyda ninau. Defnyddiwn ef i ddarlunio unrhyw glefyd ffyrnig, ac eang ei weithrediadau.

3. Y pla, yn ystyr presenol y gair, a arwydda glefyd neillduol. Ei arwydd-nodau ydynt yr un a rhai twymyn o natur ffyrnig a phydrawl. Mae yn gydfynedig a hi wendid dirfawr, a llawer o chwydd mewn rhanau neillduol o'r corph. Ffyna yn gyffredin fel epidemic, mae yn gatching, rhed ei chwrs gyda chyflymdra mawr, ac y mae yn angeuol iawn. Nid ymddengys fod yr hynafiaid yn gyfarwydd ag ef; ond rhaid cyfaddef fod ei ddechreuad a'i hanes boreuol yn guddiedig mewn llawer o dywyllwch (Gregory, Prac. of Med. 124). Mae y clefyd hwn wedi bod yn un gwastadol yn yr Aipht, a cheir ef yn aml yn y gwledydd cymydogaethol; ond yr Aipht yn ddios ydyw y brif ffynonell o ba un y llifa ei ddifrodiadau i'r gwledydd cylchynol. Yn yr Aipht dywedir yr ymddengys bob hydref, ac y parha hyd ddechreu Mehefin o'r flwyddyn ganlynol; peidia ei ddifrodiadau y pryd hyny, a'i allu catching a lethir, neu a crys yn ddieffaith yn ystod yr haf, ond i gael ci alw i fodolaeth neu weithgarwch yn yr hydref (Cyc. of Med. iii. 353).

Ceir y gair yn aml yn y C. C. o'r Beibl; ond nid oes un lle i feddwl y cyfeiria byth at y clefyd a adwaenir wrth yr enw pla, ac nid oes un prawf yr adwaenid y clefyd hwn yn Palestina yn yr hen amserau. Arferir ef am drychinebau mawrion (Exod. ix. 14; xi. 1; Lef. xxvi. 21-39; Jer. 1. 13); am unrhyw fath o ofid (Ps. xci. 10); am walianol glefydau (Luc vii. 21); am glefydau neillduol, megis y gwahan-glwyf (Lef. xiii. 3, 5, &c.); clwyf y marchogion (1 Sam. v. 6, 9, 11, 12; vi. 4, 5); math ofnadwy o ddarfodedigaeth (Zech. xiv. 12, 15); ffynonell y gwaed (Marc v. 29, 34). Er yr enwir y pla mewn manau lle torid ymaith niferi lliosog, megis yn Num. xvi. 46-50, etto nid ydym at ein rhyddid i ddeall wrtho y clefyd a adwaenir yn awr yn gyffredin wrth yr enw hwnw. "Nis medrwn ddweud beth ydoedd yr offerynoliaeth (cydm. 1 Sam. vi. 19, 20; 2 Sam. xxiv. 15-17, 20, 21, 25; 2 Bren. xix. 35). Cawn fod cosb wedi ei gweinyddu gan ddyn yn cael son am dani dan yr enw pla (Num. xxv. 3-9, 18; Ps. evi. 28-30). Gan nad oes un adnod yn yr hon y gellir dangos yr arwydda y gair y clefyd a adwaenir yn gyffredin fel y pla, gallwn daro y clefyd hwnw allan o nifer clefydau y Beibl.

4. Y cryd, neu y dwymyn, ydyw efallai y clefyd mwyaf cyffredin yn y byd. Gellir amheu pa un a fu un wlad neu oes yn yr hon nid yw wedi ffynu dan ryw ffurf neu gilydd. Yn nyddiau Moses sonir am 'y cryd poeth' (Lef. xxvi. 16), a llosgfa' (Deut. xxviii. 22). Yr un yw y gair Hebraeg yn y ddwy adnod, a rhydd Gesenius iddo yr ystyr 'twymyn boeth' (p. 723). Clefyd Hezecial ydoedd efallai dwymyn yn gydfynedig a chornwyd, at ba un y cymhwyswyd swp o ffigys er mwyn peri iddo grawnu (Esa. xxxviii.) Yn amser ein Harglwydd mae genym hanes pendant am dwymynon: 'Ac yr oedd chwegr Simon yn gorwedd yn glaf o'r cryd (twymyn), ac yn ebrwydd y dywedasant wrtho am dani hi. Ac efe a ddaeth, ac a'i cyfododd hi i fynu, gan ymaflyd yn ei llaw hi, a'r cryd a'i gadawodd hi yn y man, ac hi a wasanaethodd arnynt hwy (Marc i. 30-31). O'r cryd yr ymddangosai mab y pendefig fel yn marw o hono, pan y gwellhawyd ef gan ein Harglwydd (Ioan iv. 46-53).

5. Yn Deut. xxviii. 27 sonir am glefyd a elwir 'clwy y marchogion, ac yn 1 Sam. v. 6, 9, 12, a vi. 4, 5, dywedir wrthym pa fodd y darfu i'r Philistiaid, ar ol cymeryd yr arch, gael eu taro â chlwyf y marchogion yn eu dirgel-leoedd; a pha fodd, wrth ddychwelyd, y danfonasant yn offrwm dros gamwedd 'bump o ffolenau aur, a phump o lygod aur, neu yn ol ymadrodd arall 'lluniau ffolenau a lluniau eich llygod sydd yn difwyno y tir.' Pa fath glefyd ydoedd clwy y marchogion sydd anhawdd dweud; ond ymddangosai oddiwrth hyn, fod iddo ffurf allanol. Mae rhai wedi meddwl taw dysentery (trwyred) ydoedd; ond sut y gallesid gwneud lluniau aur o drwyred sydd anhawdd dychymygu. Dywed Josephus taw dysentery neu drwyred ydoedd a ddiweddai yn angeuol yn ddi-