Tudalen:Astudiaethau T Gwynn Jones.djvu/103

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

a'r afonydd a'r mynyddoedd yn canu clodydd ac yn adrodd hanes y gwledydd a'r bobl. Dyma gyfarchiad y bardd i Gymru, yn agos i'r dechrau:

Then most renowned Wales, thou famous ancient place,
Which still hast been the nurse of all the British race,
Since nature thee denies that purple-cluster'd vine,
Which other temples chafes with fragrant sparkling wine;
And being now in hand to write thy glorious praise,
Fill me a bowl of meath, my working spirit to raise;
And e'er seven books have end, I'll strike so high a string,
Thy Bards shall stand amaz'd with wonder, whilst I sing;
That Taliessen, once which made the rivers dance,
And in his rapture raised the mountains from their trance,
Shall tremble at my verse, rebounding from the skies,
Which like an earthquake shakes the tomb wherein he lies.

Pe clywsai Taliesin y gân, efallai y troesai yn ei fedd, yn wir, canys anodd fyddai i brydydd mor gymysglyd ac annealladwy ddychmygu am y fath beth a rhetoreg Drayton, er a ddywedodd am ei gampau rhyfeddol ef ei hun, heb sôn gair am y pethau a ddywedodd ei esbonwyr amdano! Rhydd Drayton enwau'r afonydd, gydag ychydig gyfeiriadau byrion at eu hanes, yna daw at y beirdd. Yn gyffredin, rhyw fod hanner lledrith