Tudalen:Astudiaethau T Gwynn Jones.djvu/139

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

iddo, a ninnau a chennym enaid, organ cyfiawnder yn arbennig, heb gymryd un sylw o ddiniweidrwydd miliynau o greaduriaid sy'n ebyrth i ni. Cyn cwyno yn erbyn difaterwch natur a cheisio ynddi degwch na pherthyn iddi, doeth fyddai i ni yn ein cylch ein hunain ymosod ar ddrwg a geir yno; a phan na chaffer ef mwy yno, odid nad ymddengys i ni fod swm yr anghyfiawnderau damwain ddwy ran o dair yn llai.

Yna, ymholir ym mha le y gorwedd dirgelwch Cyfiawnder. Ystyrrid gynt mai yn llaw'r duwiau, a thrachefn fod y duwiau ynddo yntau. Dodwyd ef ym mhob man ond mewn dyn, a phan oeddym bron a chredu nad ydoedd mwyach, dyna ef i'r golwg o waelod ein calon. Felly, medd ef, gyda llawer dirgelwch; nyni yw eu noddfa olaf a'u gwir drigfa, "ynom ni y dont o hyd i'r aelwyd a adawsant i grwydro'r gofod yn afiaith cyntaf eu hieuenctid." Bai arnom yw priodoli bwriadau moesol i natur, ac ymddwyn oblegid ofn cosb neu obaith gwobr; eto nid yw hynny'r un peth â dywedyd nad oes wobr i'r da na chosb i'r drwg- diamau fod gwobr a chosb, ond mai nid o'r lle y tybiwn ni y dont. Nyni sy'n dodi cyfiawnder yn natur. Ni bydd cyfiawnder nac anghyfiawnder ein bwriad ni yn dylanwadu dim ar agwedd natur tuag atom, ond bydd i hynny ddylanwad, a