Tudalen:Astudiaethau T Gwynn Jones.djvu/144

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Yn yr ail rhan o'r llyfr y mae'r awdur yn olrhain twf ein syniadau am ddirgelwch. Ei ymresymiad yw mai ar amgyffrediad o'r byd, sef yr un peth ag amgyffrediad o'r anhysbys, y mae ein bywyd ni yn gorffwys, ac am hynny nad iawn i ni dderbyn y peth a rydd i ni fwyaf o fwynhad, eithr yn hytrach y peth fydd wiraf yn ein golwg. Y drwg mawr, sy'n dinistrio ein bywyd moesol ac yn bygwth uniondeb ein hysbryd a'n cymeriad, nid ein twyllo ein hunain drwy garu gwirionedd ansicr ydyw, ond dal yn ffyddlon i'r peth na bôm mwy yn ei lwyr gredu. Felly, ein dyled yw chwilio a deall, a meithrin dyheadau digon helaeth i gydfynd â phob ffaith ddi-wad. Nid drwg colli hen gred-daw un newydd yn ei lle, ac oni ddêl, gwell ei fod yn wag na bod ynddo ddim ond hanner cred. Nid gwaith ofer yw darparu lle i wirioneddau a ddaw, cadw trefn dda ar y nerthoedd a ddylai wasanaethu arnynt, a gwneud ynom ein hunain ddigon o ehangder. Er nad yw'n bywyd ni, os mynnir, yn ddim, nad yw'n bod ni na bod ein planed yn ddim ond damwain druenus yn hanes y bydoedd, gwir er hynny mai ein bywyd a'n planed ein hunain yw'r pethau pwysicaf, a hyd yn oed yr unig rai pwysig yn hanes y bydoedd. ini. Yr anhepgor i ni yw ymlynu wrth y gwir fo gwiraf o'r lle yr edrycho dyn arno.