Tudalen:Astudiaethau T Gwynn Jones.djvu/158

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ddeugain oed, a aeth i fath o lewyg, ac yna, â llais fel llais geneth fach—geneth fach a'i henw Julia, oedd yn llefaru drwyddi, meddai hi—a ddadlen nodd iddo bethau arbennig yn y dyfodol hyd fesur yn gywir. "Euthum i ymofyn yn gywir," medd ef, "heb gredu, ond yn barod i gredu, heb gymryd plaid a heb ddiystyrru ymlaen llaw, oherwydd, oni ddylid yn ddall addef un wyrth, y mae'n waeth ei dirmygu yn ddall, ac ym mhob cyfeiliornad cyndyn, ymgudd gwirionedd rhag orol i ddisgwyl awr ei eni." Ni chred ef fod "Julia" yn mynd y tu draw i'r peth a wyddai ef ei hun, ond ei bod yn darllen, nid yn gyflawn ac megis mewn llyfr cyffredinol, lle byddai popeth y byddai'n rhaid ei ddigwydd wedi ei sgrifennu i lawr, eithr drwyddo ef, yn ei reddf arbennig ef ei hun, ac na allai hi ond trosi yr hyn na allai ei reddf ef ei fynegi i'w feddwl.

Yr ydym, eb efô wrth derfynu, yn wyneb y dyfodol megis yn wyneb gorffennol wedi ei anghofio. Gallwn geisio ei atgofio. Awgryma rhai ffeithiau nad amhosibl mo hynny. Dylem geisio dyfeisio ffordd neu gael hyd eto i'r ffordd at y cof sydd o'n blaenau. Rhag crwydro ar hyd ffordd lle nad oes dim yn ein galw, digon dywedyd bod y dyfodol, fel popeth y sydd, yn debyg o fod yn fwy cytûn a mwy cyson na chysondeb ein dychymyg ni, ac na wyrai digwyddiad pethau fymryn o'n bod ni yn eu gwybod ymlaen llaw. At hynny, ni wypai neb mo'i ddyfodol na rhan ohono ond y rhai a fynnai'r boen o'i ddysgu, megis na ŵyr mo'r gorffennol nac un rhan o'u presennol eu hunain, ond y rhai â'r galon a'r deall i'w holi.