darllen yr ystori honno, bob yn ail ag edrych ar y glaw yn mynd heibio fel cynfas drwy'r awyr of flaen y gwynt. Yn ddiweddarach beth, daeth hanes "Albert Maywood," cyfieithiad o ystori Americanaidd, allan yn y "Drysorfa," a hyfrydwch diderfyn o'i darllen. Yr oedd coed o bobtu i'n tŷ ni, yn ymestyn am rai milltiroedd. Yn y coed hynny y byddai anturiaethau Maywood i gyd, ond diddorol yw cofio fel y byddai'r meddwl yn dwyn i mewn i'r coed bethau nad oeddynt yno, megis craig uchel; neu yn helaethu darn bychan o dir ar lan afon yn daith diwrnod o faint. Synnais lawer tro wedyn fel y medrais wasgu'r ystori i ryw hanner milltir o goed.
Llyfr Saesneg, mi gredaf, oedd fy llyfr nesaf—dysgasai fy mam fi i ddarllen yr iaith honno yn lled ieuanc. Nid cof gennyf na theitl y llyfr nac enw ei awdur, ond ar ffurf llythyrau oddi wrth dad at ei fab yr oedd, yn adrodd hanes Lloegr, neu hanes ei brenhinoedd yn hytrach. Darllenais hwnnw lawer gwaith trosodd, ac yr wyf yn cofio'n dda synnu nad oedd fodd bod yn frenin heb dorri pen neu wenwyno rhywun arall o hyd. Tua'r un adeg, byddai'n hoff gennyf ddarllen llyfryn bach a elwid "Basgedaid o Flodau," ac yr wyf yn cofio rhai genethod a fyddai'n wylo wrth ddarllen hwnnw—bendith ar eu calonnau bach caredig!