Tudalen:Astudiaethau T Gwynn Jones.djvu/26

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Natur, goleuni oedd hoffaf gan Dante, ac yn ei Baradwys, goleuni yw'r cwbl, yn y pwynt hwnnw. o wawl na ellid edrych arno yr oedd Duw—

Un punto vidi che raggiava lume
Acuto si, che il viso ch'egli affoca
Chiuder conviensi, per lo forte acume.

Sylwedydd craff ydoedd ef, meddyliwr manwl a dwfn. Un peth sydd na cheir yn ei gân ddisgrif iad manwl ohono, sef harddwch Beatrisia, eto y mae'r harddwch hwnnw yn llenwi pob cyfeiriad ati, weithiau yn ei gosgedd, weithiau yn ei gwallt, weithiau yn ei llygaid. Pan yw hi'n disgyn i'w gyfarfod yn y Purdan, y mae popeth o'i chwmpas yn hardd, lliw rhos a goleuni araul ar yr wybren, a hithau'n dyfod i lawr yng nghanol cwmwl o flodau. Yn ei ddyfnder y mae mawredd Dante, y mae'n eich argyhoeddi ei fod ef wedi teimlo'r pethau a ddisgrifia, nad oes dim yn ysbryd dyn nad yw ef yn ei chwilio. Y mae dwyster a chywirdeb ei gerdd cymaint a'i glwyster a'i chywreindeb.

Pa beth ynteu sy'n cyfrif am ddylanwad y gerdd, o oes i oes? Ei manyldeb, medd Macaulay; ei chywirdeb ebr Carlyle. Diau fod manyldeb a chywirdeb yn ddigon i gadw gwaith llenyddol yn fyw. Yn ein cyfnod ni, sonnir llawer am