"Beth ydych yn ei wneud, blant? Gweddïwch dros Elin bach annwyl. O! pa fodd i ymadael â hi? Beth a wnaf? O! y mae'n gyfyng arnaf." Ac wylai wrth fynd i lawr y grisiau.
Ond dyma'r noswaith olaf yn dod. Mynnai iddo orwedd yn ei hymyl ar y gwely, a gwnaeth hynny yn ei ddillad, a meddai wrtho, "Nhad, mae'r gannwyll yn tywyllu," a chyda hynny fe glywai rywbeth yn torri yn ei brest, ac fe neidiodd i fyny, ac fe welai fod y diwedd wedi dyfod a'i gwedd wedi newid. Ond edrychai ym myw ei lygaid, ac ebe hi wrtho, "Lle mae mam?" Aeth i'w hymofyn, ac eisteddodd wrth y gwely ar ystôl; gwelai ar unwaith fod fy mam yn methu dal; ac ebe hi wrthi, "Ffarwel ichwi, mam annwyl, yr wyf fi'n mynd i ffwrdd." A dywedodd fy nhad, "Ewch a dowch yn ôl, Fanny fach." Ac wedi iddi fyned dywedodd,
"Dowch yma, 'nhad," a rhoddodd ei llaw ar ei garddwrn, a theimlodd guriadau'r gwaed, ac fe ddeallodd eu bod wedi sefyll; yna cododd ei dwylo, ac ymaflodd am wddf fy nhad a dywedodd, "Yr wyf yn mynd, 'nhad." Dywedodd yntau wrthi, "Dyro dy bwys ar Iesu Grist, fy ngeneth annwyl i." "O, yr wyf yn gwneud, fy nhad annwyl, annwyl," oedd ei geiriau olaf hi, ac yna fe ddiffoddodd fel cannwyll â'i breichiau am wddf fy nhad.
Daeth y wraig a oedd yn nyrsio ato, a dywedodd wrtho, "John Jones, dowch i ffwrdd, y mae hi wedi mynd." "O! O! O! y mae hi: ni allaf ei gadael." Ac yna rhoes ei wyneb ar ei hwyneb oer, ac ni