Tudalen:Atgofion am Dalysarn.djvu/38

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ddim eu bod wedi eu goreuro ag aur, ond wedi costio aur i'w gwneud nhw'," oedd yr ateb. A ninnau'n siomedig iawn. Y dydd Sadwrn canlynol fe ddaeth fy nhad yno at y Sulgwyn â'm chwaer hynaf ar geffyl gydag ef. Bore dydd Llun daeth cennad o Gapel Curig i'w ymofyn at ddau o'r gloch ddydd Llun, ond nid oedd yn fodlon myned, a chymerodd esgusawd fod fy chwaer ddim iach a bod yn rhaid iddo ddychwelyd adref. Ond yr oedd y ddau frawd dadlau'n daer dros iddo ddyfod gyda hwynt. "Fe fydd yn siomedigaeth ofnadwy," meddent, ac ni fydd yn llawer pellach ichwi o Gapel Curig na phed aech oddi yma. Dowch, yn wir, John Jones annwyl." Ac fe'i perswadiwyd ef i fyned, a ninnau gydag ef; ond yr oedd fy chwaer yn methu ag eistedd ar y ceffyl gan boen. Yr oedd y capel yn orlawn, a disgwyliad mawr wrtho, a gwên o foddhad wrth ei weld wedi dyfod.. Yr wyf yn meddwl fod yna orfoledd ar y diwedd.

Yn y Tŷ Capel cawsom de, fy chwaer a minnau a'm tad. Mor fuan ag inni ddiweddu daeth dau flaenor ar eu ceffylau o Fethesda; daethant ato a dywedodd un wrtho, "Yr ydym wedi dyfod yma. i'ch ymofyn i ddod i Fethesda at y nos." "O, alla' i ddim yn siŵr; yr wyf yn myned adref ar f'union oddi yma; 'dydyw'r eneth yma ddim yn iach, ac mae'n methu marchogaeth.' "O," ebe'r dynion, fe geisiwn gerbyd iddi." O na, na, na," ebe fy nhad, "gadewch imi fynd adref y waith hon." "Na'n wir, y mae acw gannoedd yn disgwyl eich