Tudalen:Atgofion am Dalysarn.djvu/50

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

"Wel, y mae Beti wedi marw, meddai'r hogiau," ebe fe wrth y ddynes a oedd yno. "Ydi, Robert Gruffydd," ac fe agorodd ddrws y siamber, ac fe'i gwelodd yn gorff. Wel, ydi'n wir," ebe ef, gan gau y drws arni. "Wel, be' wna' i 'rŵan, deudwch? O ran hynny, 'doedd hi'n gallu gwneud fawr ers talwm bellach." "Well ichwi fwyta."

"Well ichwi fwyta." "Ie, yntê" "gael ichwi fynd i chwilio am le i'w chladdu hi." O, ic'n wir; yr oedd ar Abram eisiau claddu Sara, wedi iddi farw, on'd oedd?"

Felly fe gladdwyd ei farw allan o'i olwg.

Yr oedd ganddo hen lances yn edrych ar ôl ei dŷ, ac yn gwneud popeth yr oedd eisiau ei wneud. Yr oedd yr hen ŵr yn agos i bedwar ugain oed, a Neli'r forwyn yn hanner cant; a meddai wrthi un diwrnod pan oedd hi'n ymofyn am arian i gael bara: "Wel, Neli, i safio iti fy mhoeni i i geisio arian fel hyn, yr wyf yn meddwl mai'r ffordd orau a fyddai iti gymryd y pwrs a minnau i'w ganlyn, iti edrych ar f'ôl i, a'r tipyn arian yma sydd gen' i." "Diar mi, Robert Gruffydd, be' 'dach chi'n feddwl?" "Wel, meddwl yr wyf am iti fy mhriodi fi." "O, diar mi, na wna' i." Gwnei; chei di ddim cynnig gwell, ac fe fydd yn gartref iti."

Y diwedd fu iddynt briodi, ond yr un peth pwysig y dylasai yr hen ŵr ei ystyried oedd, ei fod ef yn aelod yn hen Eglwys Talysarn, a Neli heb fod. Yr oedd yn drosedd a alwai am gerydd a diarddel yn ganlyniad; ac, yn y Seiat, fe alwyd ar Robert Gruffydd i roddi eglurhad, ac fe ofynnodd y blaenor iddo