Tudalen:Atgofion am Dalysarn.djvu/60

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

"Ydy'n wir," meddai Siôn. "Os oes rhywun wedi mynd ato, mae Cadi wedi mynd. Byddai'n siarad ag Ef, yn canu iddo Ef, ac yn byw iddo Ef, a hynny pe buasai heb damaid o fwyd yn y tŷ."

Cadi," meddai wedyn ymhen ennyd, "y mae Cadi yno cyn wired â bod nefoedd."